Datganiadau i'r Wasg

Diffoddwch y Teledu a Dewch I Fwynhau Amgueddfeydd Cymru

Wythnos Genedlaethol Diffodd y Teledu 24 – 29 Ebrill 2006

Mae gan Amgueddfa Cymru ddigonedd o bethau i'ch temtio chi oddi ar y soffa o flaen y bocs yn ystod Wythnos Genedlaethol Diffodd y Teledu

Gyda saith amgueddfa, a mynediad am ddim i bawb diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae digonedd o ddewis i'r teulu cyfan fwynhau diwrnod i'r brenin. Mae gweithgareddau i deuluoedd ymhob un o'n hamgueddfeydd ledled Cymru, felly does dim esgus dros beidio â diffodd y teledu a mynd â'r plant allan i fwynhau diwrnod llawn hwyl.

Dewch am dro brynhawn Sul yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Dewch i weld sut roedd pobl Cymru'n byw trwy'r oesoedd yn y tai a'r bythynnod sydd wedi eu hail-godi ar draws y safle glas 100 erw. Dyma'r lle perffaith i roi'r byd yn ei le ar ôl wythnos galed yn y gwaith neu'r ysgol.

Mae digonedd o ddeinosoriaid ar y bocs, ond does dim byd tebyg i weld y peth go iawn oes e? A dyma un o'r pethau gwych sydd i'w gweld a'u gwneud yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dewch i weld olion yr anifeiliaid cynhanesyddol anhygoel hyn – mamothiaid, elcod a phob math o ddeinosoriaid.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yw cartref casgliad celf cenedlaethol Cymru hefyd. Does dim un teledu'n gwneud yr un cyfiawnder â champweithiau Renoir, Van Gogh a Monet â'u gweld nhw â'ch llygaid eich hun. Felly peidiwch â gwneud y tro â'u gweld nhw o'r soffa, dewch i weld Lilïau D?r gwreiddiol Monet drosoch eich hun – a chofiwch bod y cyfan am ddim!

Ydy, mae'n ddifyr gwylio'r Rhufeiniaid ar y teledu, ond sut fywyd gawson nhw yng Nghymru? Diffoddwch y bocs a dewch draw i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion i ddysgu pob math o bethau am y Rhufeiniaid. Cewch gyfle i wisgo fel milwr Rhufeinig go iawn, a gweld sut beth oedd bywyd yn y barics 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae profiad Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn unigryw. Ble arall cewch chi deithio 300 troedfedd i lawr i grombil pwll glo go iawn – ac yng nghwmni glöwr go iawn? Dychmygwch dreulio oriau di-ben-draw yn y tywyllwch danddaear bob dydd. Cewch weld ble roedd ceffylau'r pwll yn treulio'u bywyd gwaith ac archwilio'r llu o dwneli oedd danddaear yn Big Pit. Mae digon i'w weld ac i'w wneud ar ben y pwll hefyd – gan gynnwys yr arddangosfa arobryn yn y Baddonau Pen Pwll a'r daith danddaear rithwir. Does dim syndod i'r amgueddfa arbennig yma gael ei henwi'n Amgueddfa Orau'r Flwyddyn yn 2005.

Mae Amgueddfa Wlân Cymru ym mhrydferthwch Sir Gâr ymhlith trysorau cudd Cymru. Rhaid gweld a chlywed dwndwr y peiriannau sy'n dal i weithio yn yr Amgueddfa i gredu'r peth. Camwch nôl mewn amser i weld pam cafodd y pentref bach yma ei alw'n Huddersfield Cymru ar un adeg. Ac mae taith newydd sbon o gwmpas y pentref ar gael i deuluoedd yn si?r o glirio'r pen!

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis wrth galon mynyddoedd geirwon Eryri. Galwch heibio i ddysgu am y chwareli a diwydiant llechi Cymru, a chlywed am y pethau sy'n cael eu gwneud o lechi – mae'n si?r y bydd ambell i beth digon annisgwyl! Dysgwch i ble cafodd llechi Cymru eu hallforio trwy'r oesoedd, a gweld sut roedd y chwarelwyr yn byw yn y teras o fythynnod sydd wedi cael ei ail-godi ar dir yr Amgueddfa.

A daw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau â straeon diwydiannau Cymru at ei gilydd dan yr un to. Dyma'r diweddaraf o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, ar ôl agor yn Hydref 2005. Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n brofiad gwych i'r teulu cyfan wrth adrodd stori diwydiant a blaengaredd Cymru ers y Chwyldro Diwydiannol – trwy lygaid y bobl. Felly diffoddwch y teledu, dewch draw i Abertawe a mwynhewch ddiwrnod i'r brenin - am ddim! Mae dros 85,000 o bobl eisoes wedi gwneud hynny eisoes dros y chwe mis diwethaf – ac wedi cael eu syfrdanu gan y lle.

Mae'r teledu'n oce, ond anaml iawn y bydd rhaglenni'n ateb eich holl gwestiynau – ac weithiau rydyn ni am gael clywed rhagor. Mae Amgueddfa Cymru'n gwybod hyn, ac rydyn ni yma i helpu. Mae ein tywyswyr a'n gofalwyr yma i'ch helpu chi ac i ateb eich cwestiynau – o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol am y safle i bob math o wybodaeth am y casgliadau. Ac ar ben hynny mae siopau, caffis a bwytai gwych yn ein hamgueddfeydd, felly manteisiwch i'r eithaf a mwynhau diwrnod cyfan gyda'r teulu.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ein hamgueddfeydd cenedlaethol, cofrestrwch i gael copi o'n cylchlythyr. i ychwanegu eich enw at ein rhestr bostio.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cefnogi mynediad am ddim i'n holl amgueddfeydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sian James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
029 2057 3185 / 07812 801356
Ebost Siân James