Datganiadau i'r Wasg

Bysedd Gwyrdd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Os yw garddio'n mynd â’ch bryd chi, dewch draw i Oriel Ddarganfod Glanely yn ystod mis Mai. Mae ‘na ddigonedd o ddigwyddiadau ar gael ar gyfer pob oedran! Ac os ydych chi wrthi ar hyn o bryd yn ceisio dewis gyrfa, yna beth am ystyried yr Amgueddfa fel opsiwn? Fel rhan o ddathliadau Wythnos Addysg Oedolion, mae staff yr Amgueddfa ar gael i’ch helpu i wneud eich dewis!

6 a 7 Mai – Gerddi Gwych.
Triciau bach y planhigion i ennill eu cyfle i beillio.

13 Mai – Gwnewch Rywbeth Gwahanol: Pwy sy’n Bwyta’r Planhigion?
Dewch i weld sut mae creaduriaid yn agor hadau, yn cnoi dail, yn treulio gwair ac yn yfed neithdar.

20 Mai – Wythnos Addysg Oedolion: Ystyried Gyrfa mewn Amgueddfa?
Dewch i glywed rhai o staff yr Amgueddfa yn trafod eu profiadau a’u cymwysterau.

Mae’r oriel hon yn gyfle i chi gyffwrdd ac astudio nifer o’n gwrthrychau, a chyda cymorth yr arbenigwyr, adnabod eich casgliadau eich hun. Neu os ydych am wybod mwy am y darganfyddiadau diweddaraf ym myd celf neu archaeoleg, mae gan Oriel Glanely gasgliad helaeth o wybodaeth i’ch cynorthwyo. Mae llond y lle o adnoddau cyfoes.

Os nad yw hyn yn apelio, yna beth am gymryd mantais am y tro olaf o’r ffaith fod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i arddangosfa Artes Mundi unwaith eto eleni,. Mae’r arddangosfa yn dathlu diwylliant gweledol o bedwar ban byd, ac yn cynnwys peintiadau mawr, darluniau difyr, delweddau ffotograffig trawiadol a ffilmiau dychmygol am ddrama ddynol neu drafodaeth ddogfennol. Gyda chynifer o gwestiynau yn codi ynghlwm â chynnwys yr arddangosfa, dewch i wneud eich penderfyniad eich hun. Ar agor tan 7 Mai.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o fanylion cysylltwch â
Siân James, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
02920 573185 / 07812 801356
Ebost Sian James