Datganiadau i'r Wasg

Dewch i ddysgu am ganeuon a gweddillion yn y de-ddwyrain ym mis Mai

Mae digonedd o adloniant i ddiddanu'r teulu cyfan yn Big Pit ac yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ym mis Mai. Yn ogystal â dathlu Mis yr Amgueddfeydd ac Orielau a'r Wythnos Addysg Oedolion, mae'r ddwy amgueddfa'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i chi eu mwynhau.

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

Cerddoriaeth y Meysydd Glo
Cerddoriaeth ar y Teras

Bob prynhawn sut ym mis Mai, bydd band neu gôr gwahanol o gymoedd y de yn dod â'u cerddoriaeth i Big Pit

  • Sul 7 Mai — Band Pwll Markham a'r Cylch
  • Sul 14 Mai — Band Treherbert
  • Sul 21 Mai — Band Radyr a Threforgan (Melingruffydd)
  • Sul 28 Mai — Côr Meibion Beaufort

Bydd yr holl gyngherddau'n digwydd ar y teras y tu allan i Faddonau Pen y Pwll ac yn dechrau am 2.30pm.

Creu Cerddoriaeth i'r Galon

Dewch draw i roi cynnig ar chwarae amrywiaeth o offerynnau cerdd, a chael cyfle i wneud eich offerynnau eich hunain. Pob dydd Sul ym mis Mai a phob dydd rhwng 27 Mai a 4 Mehefin, 11am–3pm.

Mis yr Amgueddfeydd ac Orielau
Curadu ein Cymuned

Bydd nifer o grwpiau cymunedol yn adrodd eu straeon eu hunain yn yr amgueddfa trwy gydol mis Mai. Bydd yr arddangosfeydd ar agor rhwng 1 a 31 Mai, 9.30am–5pm.


Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Mis yr Amgueddfeydd ac Orielau
Sesiynau Crefftau yn yr Amgueddfa

Galwch heibio i fwynhau amrywiaeth o grefftau sy'n addas i'r teulu cyfan
13 Mai, 11am – 3pm.

Sgwrs am y Gladiatoriaid

Dewch i glywed am fyd peryglus ac angheuol y gladiatoriaid Rhufeinig, gyda Dr Mike Thomas.
20 Mai, 2.30pm.

Wythnos Addysg Oedolion

Cymrwch ran mewn cyfres o sgyrsiau rhyngweithiol lle chi sy'n dewis y testun.
22–26 Mai, 3.30pm.

Gweithdy Esgyrn Rhufeinig

Mae'r gweithgareddau'n cynnwys profi'r pridd ac ail-greu sgerbwd Rhufeinig.
29 Mai–2 Mehefin, 11am–4pm. £1 y plentyn.

Mae Amgueddfa Cymru'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru — Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.


Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau yn Big Pit ac yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, cysylltwch â: Kathryn Stowers, Swyddog Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus Big Pit.
Ffôn: 01495 790311. Ffôn poced: 07970 017210
E-bost Kathryn Stowers