Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Paratoi am ei Chanmlwyddiant yn 2007

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cychwyn ar un o'r datblygiadau mwyaf yn ei hanes, wrth ail-ddatblygu ac adnewyddu ei horielau celf.

Mae'r gwaith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn rhan o brosiect gan Amgueddfa Cymru ar gyfer ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae'n cynnwys datblygiadau yn y ddwy amgueddfa fwyaf yn ardal Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Mae gwaith yn cychwyn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Mai, a thros y deunaw mis nesaf bydd nifer o'r orielau celf ar gau i'r cyhoedd, wrth i waith adnewyddu gael ei gwblhau. Bydd yr orielau cyntaf yn cau ar 22 Mai. Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, Michael Houlihan:

"Mae'r ail-ddatbygiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn digwydd ar adeg cyffrous iawn i Amgueddfa Cymru. Rydym yn edrych ymlaen i'n hail ganrif, gyda chynlluniau hynod gyffrous. Ein bwriad yw datblygu i fod yn amgueddfa ddysg o safon rhyngwladol.

"Bydd ein horielau celf wedi'u hailwampio yn diogelu a dangos casgliadau celf byd enwog Cymru yn well. Bydd y gwaith yn cyrraedd ei uchafbwynt gyda llawr uchaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cael ei chlustnodi ar gyfer gweithiau celf, gan greu gofod ardderchog i arddangos ein casgliadau."

Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae Gweinidog y Llywodraeth dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, Alun Pugh, yn gefnogol iawn o gynlluniau Amgueddfa Cymru:

"Rydw i'n ymroddedig i gynyddu mynediad i ddiwylliant, gan gynnwys saith safle ein Amgueddfa Genedlaethol ardderchog. Diolch i bolisi mynediad am ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae nifer yr ymwelwyr wedi codi yn aruthrol ers cyflwyno'r syniad yn Ebrill 2001. Rydw i'n hyderus y bydd ein buddsoddiad ariannol ychwanegol yn galluogi'r Amgueddfa i ddatblygu'i chynlluniau ar gyfer y ganrif nesaf."

Mae Amgueddfa Cymru wedi datblygu adran arbennig 07 ar gyfer y canmlwyddiant ar y wefan yma, sy'n cynnwys gwybodaeth ar holl brosiectau canmlwyddiant yr amgueddfa, manylion am gau'r orielau celf, a gwybodaeth ar sut i gefnogi'r amgueddfa a'i gwaith. Am wybodaeth ar agor a chau'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch 029 2039 7951.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wl�n Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru — 029 2057 3175 / 07974 205 849.