Datganiadau i'r Wasg

The People's Museum

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn un o ryw 70 o amgueddfeydd a fydd yn ymddangos mewn cyfres arbennig a gaiff ei darlledu ar BBC 2 yn ddiweddarach yn y mis. Bydd The People's Museum yn dechrau ar BBC 2 ddydd Llun, 15 Mai am 3.30 pm. Bydd pob rhaglen yn edrych ar bedair amgueddfa, gyda phob un yn cyflwyno un eitem arbennig. Caiff y gynulleidfa wahoddiad i bleidleisio dros eu hoff eitem arbennig ym mhob rhaglen a chaiff yr enillydd ei gynnwys mewn rhith People's Museum.

Caiff ein rhaglen ni ei darlledu ddydd Iau, 8 Mehefin am 3.30 pm – a’n heitem arbennig fydd locomotif Penydarren.

Pam felly? Wel, locomotif Penydarren, a adeiladwyd gan y peiriannydd o Gernyw, Richard Trevithick ym 1803–04, oedd y locomotif stêm cyntaf i redeg ar gledrau yn unrhyw le yn y byd. Ar 21 Chwefror 1804, teithiodd y locomotif o Benydarren ym Merthyr Tudful i Abercynon, sef pellter o naw milltir, gan dynnu deg tunnell o filedi haearn a 70 o deithwyr cyffrous oedd wedi dringo ar y peiriant! Tan hynny, y ffordd gyflymaf i deithio o un lle i’r llall oedd ar gefn ceffyl. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd rheilffyrdd stêm wedi cyrraedd y rhan fwyaf o rannau o’r byd, gan gludo niferoedd mawr o bobl ar gyflymder o dros 60 milltir yr awr. Cychwynnodd y locomotif yma chwyldro go iawn ym myd trafnidiaeth.

Fe anfonwn ni ragor o wybodaeth am sut i fynd ati i bleidleisio cyn gynted ag y gallwn ni.