Datganiadau i'r Wasg

Wynebau Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
3 Mehefin – 24 Medi 2006

Catrin o Ferain, "Mam Cymru" y Tuduriaid; Thomas Pennant, awdur llyfrau teithio o'r 18fed ganrif; Mary Evans, cariad cyntaf y bardd Samuel Taylor Coleridge; Dylan Thomas, y bardd eiconaidd, Paul Robeson, yr actor, canwr ac ymgyrchydd hawliau sifil o America; Dr Rowan Williams, Archesgob Caergaint a thad pensaernïaeth fodern; a Frank Lloyd Wright — dyma rai o'r testunau enwog mewn arddangosfa newydd, 'Wynebau Cymru' yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (3 Mehefin – 24 Medi 2006).

Mae'r arddangosfa'n cyflwyno lluniau a ffotograffau o bobl sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru dros y 400 mlynedd diwethaf. Mae'n cynnwys portreadau gan artistiaid fel Thomas Gainsborough, Johann Zoffany ac Augustus John. Mae'r rhan fwyaf o'r testunau'n ffigurau Cymreig amlwg, ond mae cysylltiadau cryf eraill â Chymru'n llai adnabyddus.

Mae 'Wynebau Cymru' yn rhoi darlun cyffredinol o ddatblygiad portreadu yng Nghymru o'r 16eg i'r 21ain ganrif. Dim ond yr ychydig breintiedig fel tirfeddianwyr a masnachwyr allai fforddio comisiynu portreadwyr yn ystod yr 16eg, y 17eg a'r 18fed ganrifoedd. Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, gallai'r dosbarthiadau canol mwyfwy cefnog yng Nghymru fynnu portreadau hefyd, a gwelodd y cyfnod bortreadau newydd o gymeriadau amlwg fel y llefarydd tanbaid y Parchedig Christmas Evans a Richard Llwyd, 'Bardd yr Wyddfa'.

Ond datblygiad ffotograffiaeth fu'n gyfrifol am drawsnewid natur portreadau yng Nghymru a'r tu hwnt. Roedd hi'n ffordd rad a chyflym o greu lluniau oedd yn creu gwir ddarlun o gymeriad.

Yn ogystal, bydd yr arddangosfa'n cynnwys gweithiau gan enillwyr cystadleuaeth Comisiwn Ffotograffig AXA Art; Dominic Hawgood a dynnodd lun Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams, a Ric Bower a dynnodd lun yr awdures Sarah Waters. Amgueddfa Cymru sefydlodd y project ac fe'i noddir trwy haelioni AXA Art Insurance. Ei nod yw cefnogi pobl sy'n dechrau datblygu dawn ffotograffig yng Nghymru. Bydd y gystadleuaeth flynyddol yma'n agored i ffotograffwyr sydd wedi graddio'n ddiweddar.

Dywedodd Dr Ann Sumner, Pennaeth Celf Gain Amgueddfa Cymru: "Mae'n rhoi gwefr i ni gael cyflwyno'r arddangosfa yma o ddelweddau o ffigurau mawr bywyd gwleidyddol, diwylliannol a chyhoeddus Cymru o'r 16eg ganrif hyd heddiw. Mae'r holl weithiau'n perthyn i gasgliad portreadau'r Amgueddfa, ac mae sicrhau Comisiwn Ffotograffig AXA Art er mwyn sicrhau datblygiad yn y dyfodol yn gynhyrfus iawn."

Bydd yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain yn arddangos gweithiau sydd wedi dod i feddiant yn ddiweddar â chysylltiadau Cymreig i gyd-fynd â'r arddangosfa. Mae'r rhain yn cynnwys yr actor Rhys Ifans gan Paul Stewart a'r gantores Charlotte Church gan Jason Bell. Cewch weld yr arddangosfa tan 14 Gorffennaf 2006.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am weinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion, cysylltwch â:

Sian James, Swyddog y Wasg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Llinell uniongyrchol: 029 2057 3185
E-bost: sian.james@amgueddfacymru.ac.uk