Datganiadau i'r Wasg

Lansio — CAMAU CYMRAEG: Adnodd dysgu Cymraeg

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, 27 Mai 2006, am 10.30 gydag Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon. Bydd CAMAU CYMRAEG, prosiect dysgu arloesol sy'n galluogi dysgwyr i ddefnyddio Amgueddfa Lechi Cymru fel adnodd cyffrous a hygyrch, yn cael ei lansio yn Llanberis ar 27 Mai.

Cafodd y prosiect hwn, a gyhoeddir ar y we, www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/addysg, ei ddatblygu mewn ymateb i Iaith Pawb, cynllun gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Cymru ddwyieithog, ac fe'i hariannwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Cafodd y pecyn ei ysgrifennu a'i olygu gan Ann Jones ac Elwyn Hughes o Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru, Bangor, ac mae'n cynnwys canllaw i diwtoriaid ynghyd â thaflenni gwaith i fyfyrwyr ac fe'i hysgrifennwyd yn arbennig i adlewyrchu strategaethau dysgu presennol.

Mae CAMAU CYMRAEG yn dilyn Llwybrau Llafar, prosiect cyffelyb a lansiwyd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, ddwy flynedd yn ôl. Mae'r ddau yn enghraifft o'r gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan Amgueddfa Cymru yn y sector addysg ôl-16, fel yr eglurodd Ceri Black, Pennaeth Dysgu:

"Rydym yn gobeithio y bydd CAMAU CYMRAEG yn gyfle i fyfyrwyr i ddysgu Cymraeg tra'n dysgu am hanes Cymru a diwydiant yng Nghymru yr un pryd. Fel LLWYBRAU LLAFAR, mae'n cyfuno'r profiad unigryw o ymweld ag un o'n hamgueddfeydd a'i chasgliadau ag anghenion ymarferol tiwtoriaid a myfyrwyr, gan ddefnyddio ymarferion, arddangosiadau ac ymgom.’

Mae staff Amgueddfa Lechi Cymru wedi derbyn hyfforddiant i helpu dysgwyr i feithrin eu sgiliau iaith, a chafwyd ymateb brwdfrydig gan diwtoriaid a myfyrwyr fel ei gilydd yn ystod y prosiect peilot i'r deunydd a'r cysyniad o ddefnyddio'r amgueddfa fel adnodd dysgu. Yn achos nifer o'r myfyrwyr, hwn oedd y cyfle cyntaf iddynt ymarfer eu sgiliau iaith y tu allan i'r dosbarth a hynny mewn amgylchedd Cymraeg naturiol.

Mae Alun Pugh, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon, yn croesawu'r adnodd newydd hwn:

"Rydw i'n gallu gwerthfawrogi gwerth y prosiect hwn yn bersonol gan i mi ddysgu Cymraeg yn oedolyn. Mae ei natur arloesol yn cydweddu'n berffaith gydag Iaith Pawb, sef cynllun gweithredu'r Cynulliad ar gyfer Cymru ddwyieithog. Mae'n rhaid llongyfarch Amgueddfa Cymru ar y gwaith a wnaed ganddi yn y maes hwn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rydw i'n siwr y bydd nifer fawr o ddysgwyr yn mwynhau'r cyfle i loywi eu sgiliau iaith yn amgylchedd delfrydol Amgueddfa Lechi Cymru yma yn Llanberis."

Meddai Jane Davidson, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

"Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau iaith y tu allan i'r ystafell ddosbarth mewn amgylchedd Cymraeg naturiol, tra'n dysgu yr un pryd am hanes a diwylliant Cymru. A ninnau'n dod i ddiwedd wythnos Addysg Oedolion lwyddiannus arall, mae hyn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i'r agenda dysgu gydol oes yma yng Nghymru."

Gellir llwytho'r prosiect hwn i lawr o'r .

Mae Amgueddfa Lechi Cymru a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn rhan o deulu Amgueddfa Cymru, sy'n gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol drwy Gymru. Yr amgueddfeydd eraill yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.


Bydd y digwyddiad y cychwyn am 10.30am ar gyfer 11am pan fydd y Gweinidog yn cyrraedd. Yn dilyn cyflwyniad i’r pecyn, bydd y Gweinidog yn ymuno â thiwtoriaid a staff yr amgueddfa i ddysgu mwy am y prosiect.

I gael gwybodaeth bellach, chysylltu â:

Julie Williams, Swyddog Marchnata, Amgueddfa Lechi Cymru
ar (01286) 873707
E-bost Julie Williams

Celia Parri, Swyddog Addysg, Amgueddfa Lechi Cymru
ar (01286) 873706
E-bost Celia Parri