Datganiadau i'r Wasg

Hwyl Hanner Tymor i'r Teulu Oll gydag Amgueddfa Cymru

Peidiwch â gadael i wyliau'r Sulgwyn basio heb ymweld ag un o'n hamgueddfeydd ar draws De Cymru. Gyda digonedd yn digwydd ym mhob un o'n hamgueddfeydd ar gyfer y teulu oll, gallwch lenwi'ch gwyliau cyfan yn symud o safle i safle!

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Creu Argraff: Sgwrs i deuluoedd ar y casgliad celf Argraffiadol, a chyfle i weithio gydag artist i edrych ar y defnydd o oleuni a lliw i greu eich campwaith eich hun. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly peidiwch â cholli allan.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Ffair Planhigion Anghyffredin: Cyfle unigryw i unrhyw un sy'n hoffi planhigion neu arddio brynu planhigion anghyffredin. Diwrnod Golch Mam-gu: Dewch draw i helpu Mam-gu gyda'i golch.

Big Pit

Creu Cerddoriaeth i'r Galon: Dewch draw i rhoi cynnig ar chwarae amrywiaeth o offerynnau cerdd, cyn creu eich offerynnau'ch hunain.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Gweithdy awyrennau papur: Gwnewch eich awyren bapur eich hun, a gweld pa un sy'n hedfan bellaf!

Cofiwch hefyd os ydych chi'n mentro draw i Eisteddfod yr Urdd, bydd gennym lond lle o weithgareddau ar ein stondin ar y Maes drwy'r wythnos – felly galwch mewn i'n gweld!

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o fanylion cysylltwch â

Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
02920 573185 / 07812 801356
E-bost Siân James