Datganiadau i'r Wasg

Henuriaid Somalaidd

6 Mehefin – 30 Gorffennaf 2006

"Whose history matters? What is at stake in the ways immigrants and minorities are portrayed? Do they have the right to present themselves as they wish to be seen?"
— Glenn Jordan

Caiff cyfres o bortreadau trawiadol a sensitif o Henuriaid Somalaidd eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 6 Mehefin a 30 Gorffennaf 2006.

Bydd yr arddangosfa yma'n herio ystrydebau a chambortreadau o ddynion Moslemaidd a phobl Somalaidd yn y DU, gan ddatgelu eu cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cyfoethog sy'n parhau hyd heddiw.

Glenn Jordan, Cyfarwyddwr Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown a darlithydd Astudiaethau Diwylliannol ym Mhrifysgol Morgannwg, sy'n gyfrifol am y ffotograffau ac am guradu'r arddangosfa o 32 o bortreadau lliw o ddynion Somalaidd oedrannus. Daw'r arddangosfa â ni wyneb yn wyneb â hanes a phresenoldeb sy'n gudd i raddau helaeth.

I gynulleidfa nodweddiadol y gymdeithas Orllewinol, mae'r dynion yn y portreadau hyn yn debygol o gael eu gweld fel pobl ddibwys neu anhysbys, ond yn y gymdeithas Somalaidd, maen nhw'n bobl o gryn statws, sy'n cael eu parchu am eu gwybodaeth a'u profiad helaeth. Henuriaid ydyn nhw. Mae eu portreadau'n eu dangos nhw'n gwisgo hetiau Islamaidd, llieiniau traddodiadol am eu hysgwyddau ac yn cario ffyn cerdded – arwyddion o'u statws, eu hanrhydedd a'u crefydd.

Cyn-forwyr yw llawer o'r dynion; mae rhai'n ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches sydd wedi ffoi rhag perygl enbyd yn eu mamwlad. Gwasanaethodd eraill yn y Lluoedd Masnach a'r Lluoedd Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Rhyfel y Malfinas a brwydrau eraill. Mae dau wedi ennill anrhydeddau fel arwyr rhyfel, ond ychydig a ŵyr pobl Caerdydd a Chymru am eu cyfraniad.

Mae'r Henuriaid yn cyfuno dillad, lliwiau a phatrymau traddodiadol â rhai'r Gorllewin. Dynion amlddiwylliannol ydyn nhw, a chanddynt hunaniaethau cymhleth. Maen nhw rhwng dau gae — nid yn unig cymdeithas a diwylliant Somalaidd, ond hefyd cymdeithas a diwylliant y Cymry.

Mae gan Gaerdydd un o gymunedau Somalaidd hynaf Prydain, a'r boblogaeth fwyaf o Somaliaid Prydeinig o ran eu geni yn y DU. Er na ddaeth merched Somalaidd i'r DU tan y 1970au, mae dynion Somalaidd wedi bod yma am dros 100 mlynedd. Daeth y cyntaf ohonynt i Brydain yn fuan wedi i Gamlas y Suez agor ym 1869; a daeth y Somaliaid cyntaf i Gaerdydd yn ystod y 1870au.

Dechreuodd ceiswyr lloches o Somalia, gan gynnwys merched a theuluoedd, gyrraedd Prydain yn ystod y 1980au, ar ôl ffoi rhag gorthrwm teyrnasiad Siad Barre. Cafodd llawer o'r Somaliaid eu cam-drin a'u carcharu yn ystod y cyfnod yma, ac wrth i'r trais gynyddu a'r ansicrwydd gwleidyddol ddwysáu, daeth llawer o deuluoedd yn ffoaduriaid, gan gynnwys merched di-briod oedd wedi colli eu gwŷr i lofruddiaeth neu garchar.

Meddai Glenn Jordan, ffotograffydd a churadur yr arddangosfa:

"Ffotograffiaeth gymdeithasol ymwybodol yw hyn. Rwy'n gobeithio y bydd y delweddau hyn yn cyfrannu at leihau senoffobia ac Islamoffobia; ac y byddant yn cyfrannu rhywfaint o leiaf, at greu byd gwell lle mae parch at wahaniaethau a lle mae pobl yn gwybod bod pobl, yn eu hanfod, yn un."

Meddai Mike Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglennu Cyhoeddus Amgueddfa Cymru:

"Mae'r project yn fynegiant pwerus o agwedd bwysig o gymuned Somalaidd Caerdydd. Mae'n rhan briodol o'n rhaglen i ddathlu diwylliannau Moslemaidd Cymru."

Mae llyfr cynhwysfawr (Saesneg a Somalaidd) llawn lluniau lliw, sy'n edrych ar hanes a phresenoldeb y Somaliaid yng Nghymru yn cyd-fynd â'r arddangosfa. Enw'r llyfr yw Somali Elders Portraits from Wales, a bydd ar werth yn siop Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am £24.95.

Rageh Omaar yn sgwrsio â Jon Gower – 3pm, 2 Gorffennaf

Bydd Rageh Omaar yn darllen dyfyniadau o'i lyfr newydd Only Half of Me ac yn sgwrsio â chyn-newyddiadurwr BBC Cymru, Jon Gower am ei fywyd fel gohebydd y BBC yn Afghanistan ac Iraq, cyn cynnal sesiwn holi ac ateb a sesiwn llofnodi llyfrau.

Mae'r ‘Henuriaid Somalaidd' yn rhan o gyfres o arddangosfeydd arbennig i ddathlu'r Ŵyl Ddiwylliannau Moslemaidd.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru, sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae mynediad i'r holl amgueddfeydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Siân James, Swyddog y Wasg, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ffôn uniongyrchol: 029 2057 3185
E-bost: E-bost Siân James