Datganiadau i'r Wasg

Rhywbeth i Bawb yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd y Mis Hwn

Mae gwrthgyferbyniad llwyr yn digwydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod mis Mehefin gyda dwy arddangosfa hollol wahanol yn agor i'r cyhoedd.

Mae Wynebau Cymru yn arddangosfa o bortreadau a cherfluniau o bobl sydd wedi cyfrannu at fyd diwylliant, gwleidyddiaeth ac economeg Cymru dros y 400 mlynedd diwethaf. Mae'r gweithiau newydd sy'n cael ei harddangos am y tro cyntaf yn cynnwys model efydd Ronald Moody o Paul Robeson ynghyd â Phortreadau Ffotograffig cyntaf Comisiwn AXA Art sy'n dangos Archesgob Caergaint, Rowan Williams a'r awdur, Sarah Waters.

Yn gwrthgyferbynnu â hyn yn llwyr mae'r arddangosfa Marwolaeth yng Nghymru: 4000-3000 CC. Dewch i weld olion y bobl adeiladodd henebion hynaf Cymru sydd wedi para hyd heddiw.

Bydd Amgueddfa Cymru hefyd yn chwarae rhan bwysig yn yr ŵyl Ddiwylliannau Moslemaidd eleni gan weithio gyda phob math o ganolfannau eraill ym Mhrydain i hyrwyddo cyfres o arddangosfeydd mawr a bach, digwyddiadau i deuluoedd, cerddoriaeth, sgyrsiau a dadleuon. Un o uchafbwyntiau'r ŵyl i ni yng Nghaerdydd yw'r arddangosfa Henuriaid Somalaidd: Portreadau o Gymru. Daw'r arddangosfa yma o ffotograffau lliw grymus gan Glenn Jordan â ni wyneb yn wyneb a hanes a phresenoldeb anweledig bron y gymdeithas Somalaidd yng Nghymru.

Felly o'r byd celf i fyd archaeoleg, ac yna i fyd aml ddiwylliannol, mae rhywbeth i bawb yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd y mis hwn.

Yn ogystal â'r rhain, mae o hyd bob math o weithgareddau difyr ar gael yn Oriel Ddarganfod Glanely sydd yn cynnwys edrych ar ffosiliau go iawn o blanhigion oedd ar y ddaear yr un pryd â'r dinosoriaid.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y broses o ail-ddatblygu ei horielau celf. Bydd rhai orielau celf ar gau i'r cyhoedd dros dro wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Bydd yr amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n . Am wybodaeth ynglŷn â'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch 029 2057 391. Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am ragor o fanylion cysylltwch â

Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
02920 573185 / 07812 801356
E-bost Siân James