Datganiadau i'r Wasg
Mwynhewch wledd o gerddoriaeth a hwyl Rhufeinig yn ne ddwyrain Cymru
Dyddiad:
2006-06-01Dewch â’r teulu draw i Big Pit neu Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru fis Mehefin am ddiwrnod allan gwych i bawb.
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Cerddoriaeth ar y Teras
Bob prynhawn sut ym mis Mai, bydd band neu gôr gwahanol o gymoedd y de yn dod â'u cerddoriaeth i Big Pit
Dydd Sul 4 Mehefin — Band Tref Tredegar
Dydd Sul 11 Mehefin — Côr Meibion Blaenafon
Dydd Sul 18 Mehefin — Band Pwll Markham a'r Cylch
Mae’r cyngherddau i gyd yn cychwyn am 2.30pm.
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Mae paratoadau eisoes ar droed yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar gyfer y a gynhelir yng Nghaerllion ar 1-2 Gorffennaf. Felly beth am dreulio mis Mehefin yn dysgu mwy am y Rhufeiniaid eu hunain a galw mewn i Amgueddfa’r Lleng Rufeinig i ddysgu pob math o ffeithiau am ein cyndeidiau Rhufeinig?
Mae’r Sioe Filwrol yn ysblennydd bob blwyddyn a bydd 2006 yn ddim gwahanol i’r arfer wrth i grwp yr Ermine Street Guard ddod ag amffitheatr Caerllion yn fyw gyda phob math o ddigwyddiadau trwy gydol y penwythnos. Bydd Ars Dimicandi, grwp o gleddyfwyr o’r Eidal yn dangos sut brofiad oedd bod yn gleddyfwyr go iawn, ac mae cyfle i blant ymuno â’r Lleng Iau, derbyn tystysgrif a chael tro ar orymdeithio yn yr amffitheatr. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn pob math o weithgareddau, cyfarfod y meddyg Rhufeinig, dysgu am siopau Rhufeinig a hyd yn oed ymlacio gyda sesiwn dylino yn arddull y Rhufeiniaid!
1 a 2 Gorffennaf. 11am – 5pm. Pris: £4 Oedolion, £2 Consesiynau a £10 ar gyfer teulu.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r .
Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Nodiadau i Olygyddion
Am ragor o fanylion cysylltwch â
Kathryn Stowers, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru
ffôn: 01495 790311. Symudol: 07970 017210