Datganiadau i'r Wasg

Dewch i Glywed Gweledigaeth Amgueddfa Cymru

Dros yr wythnosau nesaf bydd Amgueddfa Cymru yn trefnu nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus i drafod ei Gweledigaeth a'i datblygiad dros y deng mlynedd nesaf i fod yn Amgueddfa Ddysg o Safon Ryngwladol.

Bu'r amgueddfa yn gweithio ar y Weledigaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Michael Houlihan. Y llynedd bu'n ymgynghori ar ei chynnwys gydag ymwelwyr, cyfeillion, cefnogwyr a'r rheini yn y maes. Bwriad y digwyddiadau a gynhelir cyn bo hir, yw rhoi cyfle i'r rhai fu'n dweud eu dweud i glywed sut y bydd y cynlluniau yn dwyn ffrwyth yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Cynhelir tair sesiwn yn ardal Caerdydd fis Mehefin, gyda chyflwyniad i'r Weledigaeth yn cael ei dilyn gan drafodaeth fywiog ar themâu sy'n rhan greiddiol o'r Weledigaeth ei hun, ac yn gyfle i drafod cyfeiriad un o'n sefydliadau cenedlaethol am flynyddoedd i ddod.

Amgueddfa Hanes Genedlaethol: Pam ac i bwy? yw'r pwnc dan sylw yn y sesiwn gyntaf a gynhelir yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, ddydd Iau 16 Mehefin o 4.00pm tan 7.30pm. Bydd panel o lefarwyr amlwg, gan gynnwys yr Athro Prys Morgan, Glenn Jordan (Cyfarwyddwr Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown) a Dr David Clarke – (Ceidwad Archaeoleg Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban), yn trafod hunaniaeth genedlaethol a phersonol, a sut all datblygu Amgueddfa Hanes i Gymru ddelio â'r materion cymhleth hyn.

Gwyddoniaeth a hanes naturiol yw thema yr ail sesiwn drafod, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ddydd Mawrth 27 Mehefin o 3.30pm tan 7.00pm. Bwriad y drafodaeth hon fydd yn delio â'r pwnc Materion Byd-eang: Amgueddfeydd Byd-eang, fydd trafod rôl casgliadau hanes natur yn Amgueddfeydd yr 21ain ganrif; sut y gellid eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o fygythiadau cynyddol i'n hamgylchedd, a sut gallai'r wybodaeth sydd ynghlwm wrth y casgliadau gyfrannu at waith ymchwil a datblygu yn y meysydd academaidd a chyhoeddus ehangach.

Y celfyddydau a threftadaeth ddiwylliannol fydd y pynciau dan sylw nos Iau 29 Mehefin, o 4.30pm tan 8.00pm, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, pan fydd panel sy'n cynnwys Edmund de Waal (crochenydd, awdur a churadur), a Philippa Glanville (cyn-Gyfarwyddwraig Academaidd Casgliad Rothschild ym Mhlasty Waddesdon), yn trafod amgueddfeydd celf y dyfodol. Amgueddfeydd y Dyfodol: Ffurfiau'r Dyfodol? fydd teitl y drafodaeth hon.

Byddwn hefyd yn cynnwys trafodaeth yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ar 21 Gorffennaf, pan fydd panel o arbenigwyr yn edrych yn fwy cyffredinol ar rôl yr amgueddfa yn yr 21ain ganrif, gan gyffwrdd â'r tri phwnc a drafodir yn y sesiynau eraill.

Os hoffech chi fod yn rhan o'r gynulleidfa yn unrhyw un o'r sesiynau Gweledigaeth, cysylltwch â Kay Hanson ar 029 2057 3328; e-bost rsvp@amgueddfacymru.ac.uk. Mae llefydd yn brin felly mae'n rhaid cysylltu ymlaen llaw i geisio sicrhau lle. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am ragor o fanylion cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru – 07974 205 849.