Datganiadau i'r Wasg

Marwolaeth yng Nghymru: 4000–3000 CC

8 Mehefin – 24 Medi 2006
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Tinkinswood, Bryn yr Hen Bobl, Bryn Celli Ddu a Pipton – dyma bedwar o'r siambrau claddu sy'n ymddangos yn arddangosfa ddiweddaraf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ‘Marwolaeth yng Nghymru: 4000-3000 CC', rhwng 8 Mehefin a 24 Medi.

Mae'r arddangosfa'n dangos chwyldro yng Nghymru dros 6,000 o flynyddoedd yn ôl pan aed ati i drefnu cerrig anferth fel cartrefi i'r meirw a phan ddaeth esgyrn dynol yn offer i'r byw. Roedd hi'n ffordd o farw a oedd yn wahanol iawn i'r ffordd fodern.

Mae dros gant o feddrodau o Oes y Cerrig yng Nghymru. Siambrau carreg anferth ydyn nhw, a chartrefi i'r meirw. Roedd adeiladwyr y beddrodau'n ymdopi â marwolaeth mewn ffordd wahanol iawn i ni, ond er bod rhai o'u defodau claddu i'w gweld yn od ac yn annaturiol heddiw, mae'n sicr bod eu cariad a'u galar yr un mor ddwys â'n teimladau ni.

Sut wasgwyd cynifer o gyrff marw i le mor fach? A gafodd pawb eu claddu'r un pryd? Dyma rhai o'r cwestiynau sy'n codi yn yr arddangosfa.

Meddai Curadur yr Arddangosfa, Dr Steve Burrow:

"Roedd pobl Oes y Cerrig yn trin eu meirw mewn ffordd wahanol iawn i ni. Mae'r arddangosfa'n dangos y gwahaniaethau hyn. Mae hi gymaint am roi cyfle i bobl feddwl am ein ffyrdd ni o drin y meirw ag y mae hi am astudio'r gorffennol.

"Esgyrn dynol yw'r rhan fwyaf o'r arddangosion, ond rydyn ni wedi creu lle ar gyfer darnau eraill o Oes y Cerrig hefyd, gan gynnwys peth tystiolaeth newydd sbon am gysylltiad rhwng Cymru a Chôr y Cewri.”

Heb amheuaeth, dyma un o arddangosfeydd mwyaf sensitif Amgueddfa Cymru ers amser, ond mae'n argoeli'n dda y bydd yn ymdrin â phwnc hynod sensitif mewn ffordd hollol urddasol.

Bydd un o gyhoeddiadau diweddaraf yr Amgueddfa. ‘Cromlechi Cymru: Marwolaeth yng Nghymru 4000-3000 CC' sy'n canolbwyntio ar y cyfoeth o wybodaeth y mae beddrodau Cymru'n ei gynnig, yn cyd-fynd â'r arddangosfa. Caiff y llyfr ei lansio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddydd Mercher, 21 Mehefin.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y broses o ail-ddatblygu rhai o'i horielau. Bydd rhai orielau ar gau i'r cyhoedd dros dro wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Bydd yr amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau 07 ar y we – www.amgueddfacymru.ac.uk. Am wybodaeth ynglŷn â'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch 029 2039 7951. Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am fwy o fanylion cysylltwch â Siân James, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, Amgueddfa Cymru
Ffôn: 029 2057 3185
E-bost Sian James