Datganiadau i'r Wasg

Dewch Am Dro i Amgueddfa Wlân Cymru ym Mis Mehefin

Gyda'r haf wedi cyrraedd o'r diwedd mae'n bryd meddwl am lefydd gwahanol i fynd er mwyn cadw'r teulu cyfan yn ddiwyd ar benwythnosau. A does unman gwell ar ddiwrnod braf nag Amgueddfa Wlân Cymru ym mhentref bychan Dre-fach Felindre yng nghefn gwlad Sir Gâr – amgueddfa a ganmolwyd yng Ngwobr Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn yn ddiweddar.

Mae rhywbeth ar gyfer pawb yn Amgueddfa Wlân Cymru sy'n un o deulu Amgueddfa Cymru, o decstilau moethus a meddal i beiriannau anferthol a swnllyd. Dyma'r lle i ddod i gael gwybod mwy am y diwydiant gwlân yng Nghymru – diwydiant a oedd mor fawr ar ei anterth fel bod pentref bach Dre-fach Felindre yn cael ei adnabod fel Huddersfield Cymru oherwydd y melinau gwlân yn yr ardal.

Mae llawer o'r melinau yma yn dawel erbyn heddiw, ond mae na felin wlân go iawn yn dal i droi ar dir yr Amgueddfa Wlân, a gall ymwelwyr â'r amgueddfa alw mewn i Felin Teifi i weld melinydd gwlân wrth ei waith. Yna, beth am roi tro ar y Stori Wlanog sy'n arwain ymwelwyr o gwmpas yr holl amgueddfa yn egluro popeth sydd angen ei wybod? Ac mae'r cart celf bob amser yn llawn deunyddiau o bob lliw a llun ac yn oriau o hwyl ar gyfer plant o bob oed.

Cofiwch hefyd am ein siop a fydd yn cael ei datblygu fel y lle i brynu tecstilau o safon o Gymru. Ond os nad yw siolau a blancedi yn mynd â'ch bryd, mae digonedd o bethau eraill yn y siop i'ch atgoffa o'ch ymweliad ag Amgueddfa Wlân Cymru. Ac ar ôl crwydro'r amgueddfa a'r siop, beth am alw mewn i'r caffi croesawgar a chyfforddus am baned a rhywbeth i'w fwyta? Rydym yn defnyddio cynhwysion lleol y n ein bwyd, felly, gallwch sicrhau bod popeth yn flasus ac o'r safon uchaf.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r . Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru – 07974 205 849.