Datganiadau i'r Wasg

Cyfle unigryw yma i weld Gladiatoriaid Rhufeinig yn ne Cymru

Dewch draw i Amffitheatr Rhufeinig Caerllion ym mis Gorffennaf i weld Gladiatoriaid Rhufeinig go iawn yn dangos eu doniau.

Dros benwythnos 1 a 2 Gorffennaf, bydd tref Rufeinig Caerllion yn cynnal Sioe Filwrol hynod. Uchafbwynt y penwythnos fydd perfformiad gan deg aelod o Ars Dimicandi, gr?p o gladiatoriaid Rhufeinig sydd wedi astudio sgiliau'r gladiatoriaid ac a fydd yn ail-greu'r brwydrau arfog, yr ymgodymu a'r paffio oedd yn digwydd 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn ymuno â nhw fydd yr Ermine Street Guard, a fydd yn martsio i'r Amffitheatr ac yn dangos holl rym ac urddas y Fyddin Rufeinig. Byddan nhw'n dangos offer sy'n taflu arfau ymhell i'r awyr, a bydd eu ceffylau'n perfformio yn yr arena, gan ddangos holl sgil a dewrder y marchogion.

A rhwng y gwahanol sioeau, cewch grwydro'r pebyll yn y pentref Rhufeinig i weld y crefftau a'r sgiliau Rhufeinig ar waith, yn ogystal â'r masnachwyr, y meddyg a gallech chi hyd yn oed gael eich tylino yn null y Rhufeiniaid! Ac ar ben hynny i gyd, gall y plant ymuno â'r Lleng Fach a martsio i'r Amffitheatr o dan lygad barcud y milwyr mawr.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Os hoffech chi gwrdd â gladiator Rhufeinig, dewch draw i'r Sioe rhwng 11am a 5pm ar 1 a 2 Gorffennaf. Pris mynediad yw £4 i oedolion, £2 i blant a £10 i deuluoedd.

Cewch drefnu cyfleoedd i dynnu lluniau ymlaen llaw trwy wneud cais. Caiff ffotograffau eu hanfon at y wasg yn lleol ar ôl y digwyddiad.

Cysylltwch â Kathryn Stowers am ragor o fanylion, i drefnu cyfweliad â'r grwpiau ail-greu, neu i drafod cyfleoedd eraill i'r cyfryngau a'r wasg.

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth am Sioe Filwrol Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, cysylltwch â

Kathryn Stowers, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru,
Ffôn: 01495 790311. Ffôn poced: 07970 017210
E-bost Kathryn Stowers