Datganiadau i'r Wasg

Siop Goffi Newydd Sain Ffagan yn Taro Deuddeg yn ôl Enzo Maccarinelli

Cafodd pencampwr y byd bocsio, Enzo Maccarinelli, gyfle am rywfaint o saib o'i raglen hyfforddi brysur er mwyn cael blasu rhai o'r danteithion ar gael yn siop goffi newydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Bwyty Bardi.

Bu Enzo, sydd yn hyfforddi ar gyfer gornest yn Stadiwm y Mileniwm ar 8 Gorffennaf, yn ymlacio yn awyrgylch hamddenol y siop goffi Gymreig-Eidalaidd, y rhan ddiweddaraf o ddatblygiadau Amgueddfa Cymru i'w cwblhau mewn pryd ar gyfer canmlwyddiant y sefydliad yn 2007.

Gyda'r thema chwaethus Cymreig-Eidalaidd a chroeso cynnes i'r teulu i gyd, Bwyty Bardi yw'r lle perffaith i gyfarfod a chael diod cyn cychwyn ar grwydr o amgylch yr Amgueddfa, neu os ydych chi wedi blino ar ôl diwrnod llawn hwyl ar y safle can erw, beth am alw mewn i gael paned a thamaid i fwyta cyn cychwyn am adref?

Cafodd yr enw Eidalaidd ei ddewis er mwyn dangos pwysigrwydd y gymuned Gymreig – Eidalaidd sy'n bodoli yn ne Cymru. Daeth nifer fawr o'r Eidalwyr a setlodd yng Nghymru o ardal Bardi, ac mae'r enw wedi cael ei gysylltu â'r cymunedau hyn yng nghymoedd y de ers hynny. Mae'r enw yn gyfle i Sain Ffagan gydnabod cyfraniad y cymunedau yma i fywyd yng Nghymru heddiw a thrwy gydol yr ugeinfed ganrif.

Bydd Bwyty'r Fro ac Ystafell De Gwalia yn cael eu trawsnewid dros y misoedd nesaf, wrth i'n arlwywyr, digbytrout restaurants, wneud gwelliannau fel rhan o'r gwaith o sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn cynnig y gorau i'n hymwelwyr i gyd.

Un o'r datblygiadau eraill yn Sain Ffagan dros y misoedd diwethaf fu agoriad siop anrhegion newydd sy'n gwerthu anrhegion o bob math, tecstilau, dillad, gemwaith, crefftau Cymreig a phob math o lyfrau. Y lle perffaith i brynu anrheg ar gyfer rhywun arbennig.

Gyda'r ddau brosiect werth tua £300,000 wedi'u cwblhau mewn pryd ar gyfer yr haf, mae'n sicr o fod yn gyfnod prysur iawn yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion

Am fwy o fanylion cysylltwch â Gwenllïan Carr, Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru — 07974 205 849.