Datganiadau i'r Wasg

Hwylio Heno

Arddangosfa o gychod Fflat Huw Puw
Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, 1–30 Gorffennaf 2006

Os ydych chi neu'ch plant wedi bod i'r ysgol yng Nghymru, mae'n ddigon posib eich bod chi'n gyfarwydd â chaneuon fel 'Fflat Huw Puw', 'Gwen a Mair ac Elin', ac 'Mae'n Bwrw Glaw yn Sobor Iawn'. Ond oeddech chi'n gwybod taw'r un dyn a gyfansoddodd yr holl ganeuon yma, J. Glyn Davies (1870-1953) – ysgolhaig, cyfansoddwr, bardd a dyn â diddordeb brwd mewn llongau model!

Fflat Huw Puw yw'r gân enwocaf oll, a math o fâd o Afon Lerpwl a dyfrffyrdd cyfagos oedd fflat wrth gwrs –nid trigfan foethus ym Mae Caerdydd! Mae'n debyg mai am ei ganeuon i blant y cofir John Glyn Davies yn bennaf heddiw; yn Cerddi Huw Puw (1923), Cerddi Robin Goch (1935) a Cerddi Portinllaen (1936), cawn dalp helaeth o sbri, bwrlwm – a hiraeth – y Cymry fel morwyr yn oes y llongau hwylio.

"Roedd John Glyn Davies yn un o ffigyrau mwyaf amryddawn ei oes," yn ôl Dr David Jenkins, Uwch Guradur, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. "Fe'i ganed yn Lerpwl yn 1870, lle roedd ei dad ym myd busnes. Bu'n ddarlithydd a phennaeth adran Celteg Prifysgol Lerpwl o 1907 tan 1936. Trwy ei blentyndod yn Lerpwl a'r gwyliau y treuliai'r teulu yn Edern, magodd diddordeb byw yn y môr a llongau."

Datblygwyd y diddordeb yma ymhellach wrth iddo wneud modelau o longau i'w fab Gwion hwylio ar lyn Parc Sefton yn Lerpwl a'r arddangosfa yn Amgueddfa Lechi Cymru fydd y tro cyntaf i'r modelau hyn – rhodd gan Gwion Davies a'i weddw i Amgueddfa Cymru - gael eu gweld yn gyhoeddus ers eu gwneud bron canrif yn ôl.

Bydd detholiad o'i gasgliad o longau model i'w gweld yn Llanberis trwy gydol mis Gorffennaf. Ar 1 Gorffennaf bydd diwrnod arbennig i'r teulu oll gyda chyfle i wneud cychod papur, canu rhai o'r caneuon a chlymu rhaffau!

Mae'r arddangosfa yn parhau tan Gorffennaf 30 ac yna yn symud ymlaen i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a stondin Amgueddfa Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, ddechrau mis Awst.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau i Olygyddion : Am fwy o fanylion cysylltwch â Julie Williams ar 01286 873707