Datganiadau i'r Wasg

Sgwrs Amser Cinio Am Ddim — Terapin yr Ymerawdwr

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 28 Mehefin 2006

Bydd Sheila Canby, Curadur Casgliad Islamaidd yr Amgueddfa Brydeinig yn trafod Terapin yr Ymerawdwr,cerflun arbennig o jâd, sydd i'w weld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlatehol Caerdydd, mewn sgwrs amser cinio ddydd Mercher 28 Mehefin am 1.05 pm.

Ffeindiwyd y Terapin ar waelod tanc dŵr yn ystod gwaith peirianneg yn Allahabad, ac mae'n rhan bwysig o gasgliad yr Amgueddfa Brydeinig erbyn hyn.

Credir bod y darn yn dyddio o oes y tywysog Selim, a deyrnasodd fel ymerawdwr rhwng 1605-27. Mae'n bosibl mai addurn yn llynoedd gerddi'r palas oedd y Terapin jâd cerfiedig yma'n wreiddiol. Gwyddom fod gan y tywysog ddiddordeb ym myd natur a'i fod yn noddi cerfwyr jâd.

Mae'r Terapin ei hun ymhlith y cerfluniau mwyaf yn y byd a wnaed o un darn o jâd. Mae'n mesur 48.5 cm o hyd a 20 cm o uchder. Mae'n eithriadol o realistig o ran ei olwg â'i ben ar ogwydd sy'n rhoi'r argraff o anifail yn cerdded yn araf. Fe'i henwyd fel Kachuga dhongaka, rhywogaeth o grwbanod dŵr croyw sy'n frodorol i'r afon Yamuna sy'n llifo i'r Ganges yn Allahabad.

Heddiw, mae Terapin yr Ymerawdwr yn enwog fel darn o gerfwaith Indiaidd cain, sydd wedi goroesi am dros 400 mlynedd. Ond pan ddaeth i Brydain am y tro cyntaf, cafodd ei arddangos yn Oriel Mwynau'r Amgueddfa Brydeinig, am ei fod yn bwysicach fel darn mawr o jâd.

Mae'r Terapin ar daith o gwmpas rhai o ganolfannau mawr y DU ar hyn o bryd. Gallwch ei weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 6 Awst.

Trefnir gweithgareddau i deuluoedd rhwng 22 Gorffennaf a 6 Awst. Bydd gweithdai Terapin yr Ymerawdwr yn rhoi cyfle i chi ddysgu rhagor am daith y Terapin o ogledd India i'r Amgueddfa Brydeinig, ac i greu eich campwaith celf eich hun i'w gadw.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y broses o ail-ddatblygu rhai o'i horielau. Bydd rhai orielau ar gau i'r cyhoedd dros dro wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Bydd yr amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n .

Am wybodaeth ynglŷn â'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch (029) 2039 7951. Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ceir mynediad am ddim i'n holl amgueddfeydd cenedlaethol diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae llefydd yn brin ar gyfer ein sgyrsiau amser cinio. Bwciwch wrth gyrraed yr amgueddfa.