Datganiadau i'r Wasg

Gladiatoriaid Eidalaidd go iawn yn ne Cymru!

Ar ôl hir aros, mae ymweliad deg Gladiator Eidalaidd ag Amffitheatr Rhufeinig hyfryd Caerllion ar y gorwel.

Dydd Sadwrn a dydd Sul (1 a 2 Gorffennaf), bydd y Gladiatoriaid, sy'n perthyn i grŵp ail-greu Ars DImicandi, yn dangos eu doniau a'u dewrder yn Sioe Filwrol flynyddol Caerllion.

Meddai Rheolwraig yr Amgueddfa, Bethan Lewis: “Rydyn ni wrth ein bodd i groesawu dynion y cwmni Gladiatoriaid nôl yma eleni. Maen nhw'n dod â chymysgedd unigryw o ddewrder a sgil i'r Sioe Filwrol, ac yn syfrdanu torfeydd o bob oedran bob tro.”

Ychwanegodd “Yn ogystal â'r Gladiatoriaid, bydd perfformiad gan yr Ermine Street Guard, a fydd yn martsio i'r Amffitheatr ac yn dangos holl fawredd yr Ymerodraeth Rufeinig. Gall y plant gymryd rhan trwy ymuno â'r ‘Lleng Fach' a martsio i'r Amffitheatr o dan lygad barcud y Lleng Fawr. Ac i weddill y teulu, bydd cyfle i grwydro'r pebyll gan ymweld â Meddyg Rhufeinig, prynu nwyddau Rhufeinig a hyd yn oed cael eich tylino gan Rufeiniwr.”

Cynhelir y sioe ddydd Sadwrn 1 a dydd Sul 2 Gorffennaf yn yr Amffitheatr Rhufeinig yng Nghaerllion, 11am-5pm. Pris mynediad yw £4 i oedolion, £2 i blant a £10 i deuluoedd. Mae Amgueddfa Cymru'n gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.