Datganiadau i'r Wasg

Datblygiadau Cyffrous yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Wrth i Amgueddfa Cymru baratoi ar gyfer ei chanmlwyddiant y flwyddyn nesaf, mae datblygiadau mawr ar droed yn un o amgueddfeydd mwyaf poblogaidd Cymru, Sain Ffagan.

Gyda thros £3.5 miliwn o fuddsoddiad dros y blynyddoedd nesaf, bydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru'n cael ei datblygu i adrodd hanes pobl Cymru drwy'r oesoedd. Y cam cyntaf yn y gwaith hwn yw arddangosfa gyffrous newydd, Perthyn, yng ngofod Oriel 1, un o orielau dan do yr amgueddfa.

Gan agor ym mis Mawrth 2007, bydd arddangosfa Perthyn yn ffordd cwbl newydd o ddefnyddio casgliadau hanes cymdeithasol Amgueddfa Cymru. Bydd yn ofod arddangos cyffrous ac arbrofol ac yn gyfle i'r amgueddfa weithio law yn llaw gydag ymwelwyr.

Mae'r datblygiadau hyn hefyd yn ymateb i un o brif ddyheadau Gweledigaeth Amgueddfa Cymru am y deng mlynedd nesaf, sef datblygu syniadau ar gyfer amgueddfa hanes genedlaethol i Gymru yn y dyfodol, ac mae hefyd yn rhan annatod o'r cysyniad o greu amgueddfa ddysg o safon rhyngwladol.

Meddai Beth Thomas, Ceidwad Bywyd Gwerin Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru:

“Arddangosfa newydd Perthyn yw'r cyfle cyntaf inni ei gael yn Sain Ffagan ers blynyddoedd i arbrofi gyda dulliau newydd o ddehongli ein casgliadau. Mae syniadau curadurol a disgwyliadau ymwelwyr wedi newid yn sylweddol, a rydym yn edrych ymlaen i allu dehongli hanes cymdeithasol Cymru mewn ffordd wahanol.

“Yn Oriel 1 rydan ni'n gobeithio gweithio gyda chymunedau o bob rhan o Gymru i greu arddangosiadau a fydd yn herio ystrydebau ac yn annog pobl i barchu ieithoedd, credoau ac arferion ei gilydd,” ychwanegodd.

Bydd archif enwog Sain Ffagan yn rhan annatod o'r arddangosfa, ac mae staff eisoes yn gweithio ar y cynlluniau cyffrous a fydd yn cyplysu ambell gwestiwn am y tai hanesyddol gyda'r casgliadau a fydd i'w gweld yn Oriel 1. Gyda miloedd o dapiau, ffilmiau, lluniau ac atgofion yn rhan o'r archif, bydd staff yn treulio'r misoedd nesaf yn dewis a dethol pethau i'w cynnwys yn yr arddangosfa. Oherwydd hyn, ni fydd gwasanaeth ymholiadau archif ar gael i'r cyhoedd am y misoedd nesaf.

Dyma'r prif ddatblygiad sy'n ymwneud â'r casgliadau yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi buddsoddi £300,000 mewn siop anrhegion a siop goffi newydd dros y misoedd diwethaf. Agorodd Bwyty Bardi, siop goffi chwaethus â thema Cymreig – Eidalaidd ei drysau yn fuan ym mis Mehefin eleni. Bydd gwelliannau hefyd yn cymryd lle ym Mwyty'r Fro a Siop De Gwalia dros y misoedd nesaf.

Bydd gwefan arbennig canmlwyddiant Amgueddfa Cymru – 07 – yn cynnwys gwybodaeth am Oriel 1, datblygiadau eraill yn Sain Ffagan ac ym mhob un o'n hamgueddfeydd cenedlaethol ar hyd a lled Cymru. Ewch i'r am ragor o fanylion.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith amgueddfa genedlaethol ym mhob cwr o Gymru – Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.