Datganiadau i'r Wasg

Dewch i Gael Dihangfa 'Ysblenydd' o'r Pêl Droed!

Rydan ni yn Amgueddfa Cymru yn sylweddoli nad yw pawb yn mynd yn wirion bost am bêl droed, wrth i rowndiau cyn-derfynol Cwpan y Byd gychwyn. A rydan ni yma i helpu...

Felly, os dyw gwylio grŵp o ddynion yn cicio pêl o gwmpas cae am awr a hanner ddim yn apelio atoch, ac os ydych chi'n cael trafferth i adnabod campau Gerrard a Crouch, galwch draw i Gaerllion y penwythnos hwn am benwythnos o hwyl ysblennydd!

Mae gennym ni gleddyfwyr hanner noeth o'r Eidal yn ein Sioe Filwrol ysblennydd eleni, ac fe fyddan nhw'n ymladd yn amffitheatr Rufeinig Caerllion y penwythnos hwn. Yr union beth i'ch temtio i neidio mewn i'r car, gyrru lawr yr M4 a chyrraedd Caerllion erbyn 11.00 ar fore Sadwrn braf o haf!

Ac os dyw hyn ddim yn ddigon, mae Caerllion yn gartref i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru – y lle i ddod i ddysgu am bopeth am y Rhufeiniaid – sut oedden nhw'n byw, gweithio a marw yng Nghymru. Ceir mynediad yn rhad ac am ddim i'r amgueddfa, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r dalennau 07 ar ein gwefan.

Sioe Filwrol Ysblennydd - dydd Sadwrn 1 a dydd Sul 2 Gorffennaf yn yr Amffitheatr Rhufeinig yng Nghaerllion, 11 am-5 pm. Pris mynediad - £4 i oedolion, £2 i blant a £10 i deuluoedd. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch (01633) 423 134.