Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar restr fer gwobr amgueddfeydd i deuluoedd

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe wedi cael ei chynnwys ar restr fer Gwobr Amgueddfeydd i Deuluoedd papur newydd y Guardian. 

Ar y rhestr gyda'r atyniad £33 miliwn a agorodd y llynedd mae Oriel Gelf Falmouth, Amgueddfa Gogledd Gwlad yr Haf yn Weston-super-Mare, Amgueddfa Horniman ac Amgueddfa Livesey, ill dau yn ne Llundain.

Mae'r amgueddfa'n un o deulu Amgueddfa Cymru, ac agorodd i'r cyhoedd yn Hydref 2005. Mae hi eisoes wedi denu dros 140,000 o ymwelwyr.

Enwebodd darllenwyr y Guardian gannoedd o amgueddfeydd, o arddangosfeydd mewn un ystafell fach mewn ardaloedd anghysbell i amgueddfeydd mawr Llundain, gan ganolbwyntio ar amgueddfeydd sy'n estyn croeso arbennig i deuluoedd.

Dywedodd Steph Mastoris: "Rydyn ni wrth ein bodd â'r enwebiad yma am ei fod yn brawf o'n  hathroniaeth sylfaenol sef adrodd y straeon am bobl a thrin ein hymwelwyr fel pobl. Rydyn ni am i bobl ddod yma, dim ots beth yw eu hoedran." 

Dywedodd y beirniad Dea Birkett, sylfaenydd yr Ymgyrch dros Blant mewn Amgueddfeydd ac un o newyddiadurwyr y Guardian:  "Mae'r rhestr fer yn arbennig o amrywiol eleni, o amgueddfa fach leol Gogledd Gwlad yr Haf yn Weston-super-Mare i safle hollol fodern Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Ond un peth sy'n gyffredin rhyngddyn nhw i gyd yw bob pob un yn manteisio i'r eithaf ar beth sydd ganddi i'w gynnig, ac yn benderfynol o wneud i bawb, o bob oedran, deimlo'n gyffyrddus a chael croeso.

"Mae gosod plant a theuluoedd wrth galon pwrpas amgueddfa, yn hytrach na'u goddef, yn arwydd o amgueddfa dda sy'n croesawu teuluoedd."

Cafodd manylion y rhestr fer eu cyhoeddi ar dudalennau teuluoedd y Guardian ddydd Sadwrn, 24 Mehefin. Caiff yr amgueddfeydd ar y rhestr fer eu profi gan deuluoedd a chaiff enw'r enillydd ei gyhoeddi yn y Guardian ddiwedd Gorffennaf. Yn ogystal â'r wobr, byddan nhw'n ennill y cyfle i gomisiynu un o ffotograffwyr y Guardian i greu portread ffotograffig o'u hamgueddfa.  Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.