Datganiadau i'r Wasg

Gornestau a gladiatoriaid ar benwythnos crasboeth yng Nghaerllion

Daeth bron i 6,000 o bobl i fwynhau gornestau Rhufeinig cyffrous yn Amffitheatr Caerllion dros y penwythnos.

A chafodd y torfeydd eu diddanu gan orchestion mentrus a dewr y gwesteion arbennig, Ars Dimicandi, sef grŵp o gladiatoriaid arbenigol o'r Eidal. A denodd hyrddiad y Gwŷr Meirch ymateb cymysg o barchedig ofn a dychryn wrth rasio ar draws y cae wrth ymyl yr amffitheatr. 

Ymunodd bron i 500 o blant â'r Lleng Fach gan orymdeithio yn yr Amffitheatr gyda baneri, cleddyfau a thariannau.

Dywedodd rheolwraig yr Amgueddfa, Bethan Lewis “Rydyn ni wrth ein bodd bod cynifer o bobl wedi dod i'r Sioe eleni. Er gwaetha'r bêl droed, daeth nifer eithriadol draw i fwynhau gweithgareddau'r penwythnos. Cawson ni dywydd gwych a chafodd y torfeydd wir flas ar wylio'r gladiatoriaid a'r grwpiau ail-greu.”.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n .

Mae Amgueddfa Cymru cefnogi dathliadau Hanfod Hanes – I'r Gymru Fydd, sef project ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. I gael rhagor o fanylion ewch i www.hanfodhanes.org.uk.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.