Datganiadau i'r Wasg

Hwyl ar y Glannau

Ydych chi'n chwilio am hwyl forol y penwythnos yma? Wel mentrwch hi i lawr i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau lle bydd ton ar ôl ton o weithgareddau'n digwydd yn rhan o Ŵyl MôrTawe — a'r cyfan AM DDIM.

Bydd yr achlysur yn cyfuno hen ffefrynnau o hen Ŵyl Forol a Siantis Abertawe â rhaglen gyffrous o hwyl yr haf. Bydd rhywbeth at ddant pawb.

Bydd digonedd o ddewis i deuluoedd gyda chyfoeth o weithgareddau ac arddangosfeydd. 

Bydd dau bengwin mawr yn perfformio, a chewch weld grŵp Cŵn Achub Newfoundland wrth eu gwaith. Cadwch lygad yn agored am y gweithdy morfilod gyda chreaduriaid môr maint llawn, o ddolffiniaid a chrwbanod môr i forloi a hyd yn oed siarcod.

Ac mae yna ragor hefyd, gan gynnwys siantis, teithwyr amser yn dod â hanes yn fyw, gweithgareddau eco-ymwybyddiaeth morol a hyd yn oed hwylio a gweithgareddau ar y dŵr, gan gynnwys llynges o gychod.

Byddwn ni'n chwilio am y wisg morleidr orau hefyd.

Dewch i ymuno yn yr hwyl ddydd Sadwrn a dydd Sul,  8 a 9 Gorffennaf, rhwng 11 am a 5 pm.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.