Datganiadau i'r Wasg

Sgyrsiau amser cinio - Marwolaeth yng Nghymru

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi cael cyfle i ymweld a'r arddangosfa Marwolaeth yng Nghymru: 4000-3000CC yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae'r arddangosfa i'w gweld tan 24 Medi, ac fe'i chefnogir gan gyfres wych o sgyrsiau amser cinio a theithiau maes – i roi blas go iawn i chi o gynnwys yr arddangosfa.

Sgyrsiau Amser Cinio

14 Gorffennaf — Beddi Rhufeinig o Gaerllion, gyda Julie Reynolds, Amgueddfa Lleng Rufeining Cymru.

19 Gorffennaf — Archaeoleg gan y Bobl, dros y Bobl: Straeon o Lan-maes, gyda Ken Brassil, Swyddog Dysgu Amgueddfa Cymru.

21 Gorffennaf — Y Bywyd Tragwyddol ym Mhrydain Ôl-Rufeinig, gyda Dr Mark Redknap, Amgueddfa Cymru.

Mae'r sgyrsiau i gyd yn dechrau am 1.05 pm felly dewch draw i'r Amgueddfa yn ystod eich awr ginio i glywed straeon difyr ac i ddysgu mwy am bynciau o bob math.

Neu os taw person awyr agored ydych chi, mae ychydig o lefydd ar ôl ar ein teithiau maes. Cyfle i archwilio bedroddau'r Gŵyr neu gromlechi a'u meirw yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Ewch i 'Digwyddiadau' am ragor o wybodaeth.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y broses o ail-ddatblygu ei horielau celf. Bydd rhai orielau celf ar gau i'r cyhoedd dros dro wrth i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau. Bydd yr amgueddfa ar agor i'r cyhoedd drwy gydol y gwaith adnewyddu gyda rhaglen llawn o arddangosfeydd a digwyddiadau yn ystod 2006 a thrwy gydol ein canmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalennau . Am wybodaeth ynglŷn â'r orielau o ddydd i ddydd, ffoniwch (029) 2039 7951. Cefnogir y rhaglen ail-ddatblygu gan arian ychwanegol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn un o saith amgueddfa ar hyd a lled Cymru a weinyddir gan Amgueddfa Cymru. Y lleill yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.