Datganiadau i'r Wasg

Agoriad swyddogol Bwyty Bardi

Mae Bwyty Bardi, siop goffi newydd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, wedi'i agor yn swyddogol gan Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf.

Mae'r siop goffi, ym mlaen prif adeilad Sain Ffagan, eisoes yn ffefryn gan ymwelwyr a staff sy'n chwilio am baned arbennig o goffi. Gyda thema chwaethus Eidalaidd-Gymreig, dyma'r lle perffaith i ddod i fwynhau paned cyn cychwyn ar grwydr o gwmpas yr amgueddfa awyr agored gan-erw ar gyrion Caerdydd.

Cafodd yr enw Eidalaidd ei ddewis er mwyn dangos pwysigrwydd y gymuned Gymreig-Eidalaidd sy'n bodoli yn ne Cymru. Daeth nifer fawr o'r Eidalwyr a setlodd yng Nghymru o ardal Bardi, ac mae'r enw wedi cael ei gysylltu â'r cymunedau hyn yng nghymoedd y de ers hynny. Mae'r enw yn gyfle i Sain Ffagan gydnabod cyfraniad y cymunedau yma i fywyd yng Nghymru heddiw a thrwy gydol yr ugeinfed ganrif.

Bydd Bwyty'r Fro ac Ystafell De Gwalia hefyd yn cael eu trawsnewid dros y misoedd nesaf, wrth i'n arlwywyr, digbytrout Restaurants, wneud gwelliannau fel rhan o'r gwaith o sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn cynnig y gorau i'w hymwelwyr i gyd.

Un o'r datblygiadau eraill yn Sain Ffagan dros y misoedd diwethaf fu agoriad siop anrhegion newydd sy'n gwerthu anrhegion o bob math, tecstilau, dillad, gemwaith, crefftau Cymreig a phob math o lyfrau. Y lle perffaith i brynu anrheg ar gyfer rhywun arbennig.

Mae Amgueddfa Cymru yn cymryd rhan yn nathliadau Hanfod Hanes - I'r Gymru Fydd, sef prosiect ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Hanfod Hanes. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hanfodhanes.org.uk.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wl�n Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.