Datganiadau i'r Wasg

Dewch i'r de-ddwyrain ym mis Gorffennaf i ddarganfod beth wnaeth yr Eidalwyr yn bêl-droedwyr penigamp

Roedd hi'n dipyn o gamp i'r Eidal ennill Cwpan y Byd eleni, ond 2,000 o flynyddoedd yn ôl, yr Ymerodraeth Rufeinig oedd yn teyrnasu'r rhan fwyaf o'r byd gwâr. Dewch draw i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru'r mis yma i ddysgu rhagor am y genedl yma fu'n gyfrifol am greu'r Ewrop fodern.

Dysgwch sut roedd y Rhufeiniaid yn byw ac yn marw yn Llengoedd Caerllion a Brynbuga trwy edrych ar eu gwisgoedd a'u bwyd, eu system addysg a'u harferion claddu. Gall y plant ymweld ag Ystafell y Barics a dysgu sut roedd y milwyr ifanc yn cael eu hyfforddi a sut roedden nhw'n byw yn y Barics.

Ond os taw hanes mwy diweddar sy'n mynd â'ch bryd, beth am fynd ar daith gyffrous 300 troedfedd i lawr i grombil y ddaear i ddysgu am fyd y glöwr yn Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru.

Mae cannoedd o filoedd o ddynion wedi gweithio yn y diwydiant glo dros y 200 mlynedd diwethaf, a gallwch chi brofi'r amodau oedd yn eu hwynebu ddydd ar ôl dydd ar daith danddaear yng nghwmni cyn-löwr. Ond os nad ydych chi'n ddigon dewr i wynebu'r daith gyfan, mae digonedd i'w weld yn ein Horielau Mwyngloddio sy'n efelychu amodau'r diwydiant ac yn rhoi cipolwg ar y pwll glo mwy modern.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.