Datganiadau i'r Wasg

Hwyl i'r teulu cyfan yn y de-ddwyrain dros yr haf

Dewch â'r teulu draw i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru neu Big Pit yr haf yma i fwynhau llond y lle o hwyl!

Does dim ots ai creigiau neu bili palas, diliau peg neu gerddoriaeth sy'n mynd â'ch bryd, bydd rhywbeth i'ch diddori chi mewn cyfres o weithdai thematig yn Big Pit trwy gydol Awst.

Pob dydd Llun, Mercher a Gwener o 31 Gorffennaf i 28 Awst, gall teuluoedd gymryd rhan mewn gweithdai a dysgu rhagor am yr amgylchedd a bywyd cymdeithasol y diwydiant glo. Bydd y gweithgareddau'n digwydd rhwng 11am- 4pm.

  • 31 Gorffennaf – 4 Awst – Wythnos Ddaeareg. Dilynwch y llwybr daeareg o amgylch Big Pit a dysgwch sut ffurfiodd haenau'r graig.

  • 7-11 Awst - Eisteddfod Big Pit. Cymrwch ran yn ein Heisteddfod fach: gwnewch eich offeryn cerdd eich hun i'w chwarae, barddonwch neu tynnwch lun i'w arddangos yn ein 'Horiel' arbennig.

  • 14-18 Awst – Wythnos Natur. Pwy sy'n byw yng nghyffiniau Big Pit? Dewch i weld beth sy'n byw yn y llyn a chwrdd â'r anifeiliaid bychain bach sy'n llechu o dan y dŵr.

  • 21-28 Awst (gan gynnwys Gŵyl y Banc) - Wythnos Teganau a Gemau. Chwaraewch â theganau o Oes Victoria a rhowch gynnig ar wneud chwyrligwgan neu ddoli peg.

Yn y cyfamser, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, cewch ddysgu am fywyd pob dydd y Rhufeiniaid gyda'r ‘Rhufeiniaid Preswyl'. Caiff yr ymwelwyr gwrdd â gof, crochenydd, crydd a chogydd. Dysgwch am y Rhufeiniaid wrth grwydro'r gwersyll, a rhowch gynnig ar rai o'r gweithgareddau sydd ar gael.

Mae'r holl weithgareddau yn y ddwy amgueddfa'n rhad ac am ddim. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.