Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa'n ffefryn mawr gydag ymwelwyr

Gyda dyddiau braf o hirddydd haf o'n blaenau am rai wythnosau, beth am gymryd hoe o'r byd ar frys a chrwydro lawr i orllewin Cymru i weld beth sydd mor arbennig am Amgueddfa Wlân Cymru ym mhentref bychan Dre-fach Felindre?

Mae'r amgueddfa, yr aelod lleiaf o deulu Amgueddfa Cymru, yn ffefryn mawr gydag ymwelwyr o bob oed, fel mae'r sylwadau yn y llyfr ymwelwyr yn ei ddangos.

“Diolch am gofnod amhrisiadwy o un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru,” yw barn un ymwelydd o Gaerdydd, ac mae ymwelydd arall o Fangor yn sôn am ba mor braf yw gweld ”...hen draddodiad lleol yn cael ei ddiogelu i'r dyfodol.” Mae pobl Sir Gaerfyrddin hefyd yn falch iawn o'u hamgueddfa genedlaethol leol. “Arbennig. Addysgol tu hwnt,” yw barn un o drigolion Dre-fach Felindre, ac mae un arall o'r pentref hefyd yn hoff iawn o'r lle, gan ysgrifennu “Ardderchog. Daliwch ati!”

Ond nid pobl leol yn unig sydd wedi mopio gyda chroeso cynnes Amgueddfa Wlân Cymru. Mae llond lle o ymwelwyr bodlon ym mhob cwr o'r byd – o Orllewin Awstralia a Seland Newydd i Maryland a Savannah yn yr Unol Daleithiau – a'r rhain oll wedi ymweld â'r amgueddfa fach dros y misoedd diwethaf.

Cafodd yr amgueddfa ei chanmol yn ddiweddar am ei gallu i ymateb i anghenion a dymuniadau ei hymwelwyr yn y ffordd mae'n darparu ar eu cyfer, yng ngwobrau arbennig Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn. Mae Curadur a Rheolwr yr amgueddfa, Sally Moss, yn falch iawn o'r croeso cynnes sydd ar gael yno, a meddai:

“Mae ymwelwyr yn hoffi'r teimlad cysurus a chartrefol sy'n bodoli yn Amgueddfa Wlân Cymru. Rydan ni'n dîm bach, ac yn cydweithio'n agos i gynnig croeso Cymreig o safon. Mae'n llyfr ymwelwyr yn arbennig o dda, ac yn sicr o godi ein calonnau ar ddiwedd diwrnod prysur. Mae'n braf gwybod bod ymwelwyr lleol a'r rheini o bellafoedd byd yn mwynhau'u hunain yn yr amgueddfa, a bod cynifer ohonyn nhw'n gobeithio dod nôl i'n gweld y tro nesaf y byddan nhw yn yr ardal.”

Mae Amgueddfa Cymru yn cymryd rhan yn nathliadau Hanfod Hanes - I'r Gymru Fydd, sef project ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Am ragor o wybodaeth ewch i www.hanfodhanes.org.uk <http://www.hanfodhanes.org.uk> .

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.