Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn dathlu Ymgyrch Hanfod Hanes

Pam fod hanes mor bwysig i ni? Sut hoffen ni i ddechrau'r unfed ganrif ar hugain gael ei chofio ymhen cenedlaethau? Ydyn ni'n gwneud digon i gofio ac i ddathlu bywydau ein cyndeidiau?

Mae'r ymgyrch Hanfod Hanes...I'r Gymru Fydd, sy'n cael ei rhedeg gan rai o sefydliadau diwylliannol mwyaf amlwg Cymru dros y misoedd nesaf yn gyfle i chi gael dweud eich dweud am y pynciau hyn a llawer mwy.

Project a drefnir gan Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw Hanfod Hanes, a'i fwriad yw tynnu sylw pawb at bwysigrwydd hanes yn ein bywydau ni i gyd. Bydd cyfle i ddweud eich dweud ar hyd a lled Cymru dros y misoedd nesaf, gyda chardiau post arbennig yn cael eu dosbarthu yn holl safleoedd Amgueddfa Cymru, Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweld yr ymgyrch fel cyfle gwych i godi proffil hanes Cymru yn gyffredinol, a meddai Michael Houlihan, y Cyfarwyddwr Cyffredinol:

"Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda phrif sefydliadau diwylliannol cenedlaethol eraill Cymru sy'n hyrwyddo pwysigrwydd hanes. Os nad oes gan gymdeithas ddealltwriaeth o'i gorffennol - yn dda neu'n ddrwg - ni all wneud penderfyniadau deallus am ei dyfodol.

"Dyma pam rydym ni'n ymroddedig i'r cysyniad o ddatblygu amgueddfa hanes cenedlaethol ar gyfer Cymru - gan ddechrau wrth gynyddu'r hyn a ddehonglir yn Sain Ffagan, er mwyn creu llinell amser hanesyddol glir a chyfleoedd i archwilio'r gwahanol lefelau cymhleth o brofiadau personol a greodd ein cymdeithas a'r unigolion sy'n byw yng Nghymru heddiw. Dyma fydd y rhan gyntaf o brosiect deng mlynedd i greu amgueddfa genedlaethol archaeoleg a hanes yn Sain Ffagan."

Bydd yr ymgyrch hefyd yn cael tipyn o sylw ar faes yr Eisteddfod eleni, gyda chyfle i gwblhau'r cardiau post a holiaduron arbennig ar stondinau'r partneriaid i gyd, gan gynnwys Amgueddfa Cymru, sy'n cydweithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar eu presenoldeb yn yr ŵyl eleni.

Cynhelir brecwast arbennig ar gyfer partneriaid Hanfod Hanes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe – yr aelod diweddaraf yn nheulu Amgueddfa Cymru – yn ystod yr wythnos, i ddathlu'r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Abertawe ac i roi cyfle i'n partneriaid i gael cyfle i grwydro'r amgueddfa a agorodd ei drysau y llynedd.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07 <http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/canmlwyddiant/> .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.