Datganiadau i'r Wasg

Hwyl gyda llechi yn yr haf!

24 Gorffennaf – 1 Medi 2006

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth i'r teulu ei wneud yr haf hwn dewch i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Mae gennym raglen lawn o weithgareddau, yn amrywio o addurno ffrâm llun gyda mosaig llechi i liwio llechi, defnyddio'r Pecyn Art Cart a gwneud bathodynnau. Hynny yw, mae yma rywbeth i blesio pawb!

“Rydym wedi gweld fod nifer fawr o deuluoedd ac ymwelwyr yn treulio llawer iawn o amser yn yr amgueddfa yn ymweld â'r prif atyniadau megis Tai'r Chwarelwyr, y rhod ddŵr enfawr, ynghyd â'r arddangosiadau hollti a naddu llechi', eglurodd Celia Parri, Swyddog Addysg yr Amgueddfa.

“Cafodd y gweithgareddau hyn eu trefnu fel eu bod yn apelio at bob aelod o'r teulu. Gall teuluoedd dreulio amser yma gyda'i gilydd a darganfod gwahanol rannau o'r amgueddfa, yn ogystal â gwneud rhywbeth i fynd adref gyda hwy a mwynhau adloniant sy'n cynnwys elfennau o addysg a diwylliant. Mae'r sesiynau hyn wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer pobl sy'n galw i mewn, felly does dim angen i chi drefnu ymlaen llaw!”

Yn ogystal â'r rhaglen o grefftau, mae yn yr Amgueddfa sawl twll a chornel diddorol i'w archwilio – megis y llofft patrwm sy'n cynnwys dros 2,000 o batrymau pren a ddefnyddid i greu offer a rhannau ar gyfer y diwydiant llechi. Gallwch hefyd fynd yn agos at y rhod ddŵr enfawr a chael cipolwg y tu mewn i Dai'r Chwarelwyr a gweld eu gerddi. Hefyd, bob dydd Mercher yn ystod mis Awst, gallwch weld UNA, injan stêm yr Amgueddfa, yn pwffian i fyny ac i lawr yr iard!

I gael rhagor o wybodaeth, byddwch cystal â chysylltu â'r Amgueddfa ar (01286) 870630. Mae mynediad i'r holl amgueddfeydd cenedlaethol yn ddi-dâl, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y gweithgareddau crefft ychwanegol yn costio £1 y pen.

Mae Amgueddfa Cymru yn cefnogi dathliadau ‘Hanfod Hanes – I'r Gymru Fydd', sef prosiect ar y cyd rhwng Amgueddfa Cymru, Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Am ragor o fanylion ewch i www.hanfodhanes.org.uk.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol drwy Gymru – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o fanylion, ewch i'r tudalennau .

I'r Wasg: I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Julie Williams ar (01286) 873707.