Datganiadau i'r Wasg

Cychwyn da i'r cydweithio ar Faes y Brifwyl

Daeth bron i 2,000 o ymwelwyr i stondin Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ddydd Sadwrn cyntaf yr ŵyl. Dyma yw'r tro cyntaf i'r Llyfrgell a'r Amgueddfa gydweithio yn yr Eisteddfod, ac mae'r stondin eisoes wedi profi yn ffefryn mawr gydag Eisteddfodwyr o bob oed.

Mae pob math o weithgareddau yn digwydd ar y stondin, sydd mewn lleoliad ardderchog rhwng y Pafiliwn a'r prif fynedfa, ac mae'r siop ar y cyd yn denu llawer o ymwelwyr - a chwsmeriaid!

Fe fydd hi'n wythnos brysur iawn i'r Amgueddfa a'r Llyfrgell - ar y Maes ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, wrth i ni ymwuno yn hwyl yr wyl.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith yn yr Eisteddfod, ewch i raglen yr wythnos, galwch mewn i'n gweld ar y Maes - neu cadwch mewn cysylltiad â ni drwy ymweld â'n safle gwe drwy gydol yr wythnos.