Datganiadau i'r Wasg

Cydweithio'n Llwyddiant i'r Amgueddfa a'r Llyfrgell

Fe fu cydweithio ar faes yr Eisteddfod yn llwyddiant mawr i Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru eleni.

Daeth dros 20,000 o ymwelwyr i’r stondin yn ystod yr wythnos, a bu’r siop ar y cyd hefyd yn llwyddiant mawr, wrth i Eisteddfodwyr o bob oed gael cyfle i brynu rhai o ddeunyddiau arbennig y ddau sefydliad.

Er bod yr Eisteddfod yn gyfle i’r ddau sefydliad arddangos peth o’u gwaith a’u casgliadau unigol, roedd hefyd yn gyfle arbennig i lansio’u cynlluniau cyffrous ar gyfer eu canmlwyddiant y flwyddyn nesaf yn 2007.

Roedd y stondin yn orlawn i glywed beth sydd ar y gweill gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.  Dywedodd Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Bydd gan Amgueddfa Cymru gyfres gyffrous o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant, ac fe fydd gennym gymysgedd o brojectau newydd sydd wedi’u datblygu gennym ni fel sefydliad, ac arddangosfeydd fel gwaith Leonardo da Vinci, sy’n teithio o amgylch Prydain.

“Rydym ni’n gweld y canmlwyddiant fel cyfle i ddathlu cychwyn ar ein hail ganrif, ac felly byddwn yn parhau i ddatblygu’r cynlluniau a geir yn ein Gweledigaeth.  Rydym eisoes wedi cychwyn ar brojectau mawr i ddatblygu Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, ac fe fyddwn yn gweld nifer o’r projectau cyffrous yma’n cael eu cwblhau yn ystod ein dathliadau.”

Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae nifer sylweddol o ddigwyddiadau wedi’i paratoi yn ystod 2007, gan gynnwys ein harddangosfa ‘Yn y lle hwn’ (Canrif y Llyfrgell a’i chasgliadau), yn ogystal â nifer o gyhoeddiadau a rhaglenni teledu. Mae’r Llyfrgell yn un o brif lyfrgelloedd mawr y byd, a heb amheuaeth, fe fydd y canmlwyddiant yn ffordd i ategu ac adeiladu ymhellach ar hyn, wrth inni baratoi ac chamu ymlaen yn hyderus i’r ganrif nesaf.’

Bydd Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn parhau i gydweithio yn ystod cyfnod y canmlwyddiant.  Am ragor o fanylion ar ganmlwyddiant Amgueddfa Cymru ewch i'r tudalennau .

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.