Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa'n denu miloedd

Mae mwy na 200,000 o bobl wedi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ers iddi agor mis Hydref y llynedd, ac mae llawer ohonynt wedi addo ail-ymweld â’r lle yn y dyfodol.

Mae’r Amgueddfa £33.5 miliwn yn adrodd hanesion dyn, diwydiant ac arloesi dros y 300 mlynedd diwethaf, ac mae ei llyfr ymwelwyr yn cynnwys llawer o ganmoliaeth gan ymwelwyr o bob oed ac o bob rhan o’r byd.

Yn ôl rhai, mae’r Amgueddfa’n ‘drydanol’, ac yn ‘ysbrydoledig’, a hi yw’r amgueddfa ‘orau erioed’.

Nododd ymwelydd o Awstralia un gair yn unig i ddisgrifio’r profiad - ‘wow!’, a dywedodd ymwelydd arall o’r Unol Daleithiau bod yr amgueddfa’n ‘serennu ymysg amgueddfeydd’.

Mae ymwelwyr lleol hefyd wedi bod yn canmol yr Amgueddfa, a dywedodd un ohonynt ‘dyma’r amgueddfa orau erioed, ac mae wedi’i lleoli yn fy nhref i ! Rwy’n andros o falch ohoni’.

Mae sêr fel Cerys Matthews hyd yn oed wedi rhoi o’u hamser i nodi sylwadau. Ysgrifennodd y gantores 37 oed: ‘Diolch am y croeso cynnes’, a galwodd Gavin Henson, chwaraewr rygbi Cymru, yr A’n ‘anhygoel!’

Mae’r Amgueddfa hefyd wedi wedi ennill gwobrau a chydnabyddiaeth am ei dyluniad, ei phensaernïaeth a’i thechnoleg, a hefyd am fod yn ‘ystyriol o deuluoedd’.

Dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris, ei fod wrth ei fodd gyda’r gymeradwyaeth.

“Mae’r sylwadau cadarnhaol yn dangos pa mor wych yw’r amgueddfa sydd wedi cael ei hadeiladu, ond hefyd yn dangos pa mor wych yw ardal Abertawe ei hun fel atyniad, yn arbennig ardal hanesyddol y glannau. “Mae gweld cynifer o ymwelwyr o’r ardal leol, o weddill y DU ac o dramor yn dod drwy’r drysau wedi bod yn galonogol.”

Yn ogystal â’r arddangosfeydd anhygoel a’r dechnoleg ddiweddaraf, cynhelir digwyddiadau, arddangosiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.

Yn rhan o’r arddangosfa Cysylltiadau ym mis Medi, bydd ymwelwyr yn gallu edrych ar ‘hanesion cudd’ sydd ynghlwm wrth brofiadau Pobl Dduon, Asiaid ac Iddewon wrth iddynt gynefino yn y DU.

Bydd sesiwn dysgu a chwarae arbennig hefyd yn cael ei chynnal i’r plantos, (Medi 19, 10.30 am a 12 hanner dydd). Mae cwmni yswiriant Admiral hefyd yn helpu i gadw hanes yn fyw drwy ariannu Amser Dweud Stori ar Garped Hud yr Amgueddfa (Medi 3) a Theithwyr Amser y Glannau a gynhelir bob dydd Sadwrn.

Mae Amgueddfa Cymru’n rhedeg saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru drwy gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.