Datganiadau i'r Wasg

Hwb Ariannol i Brojectau'r Amgueddfa

Ar drothwy’i chanmlwyddiant, mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn hwb ariannol o £20,000, gan Gyfeillion yr Amgueddfa – gr?p o gefnogwyr brwd gwaith y sefydliad.

Mae’r rhodd, a roddir yn flynyddol tuag at brojectau arbennig ar draws yr Amgueddfa, yn cynnwys arian ar gyfer yr oriel newydd yn Sain Ffagan, a fydd yn gartref i arddangosfa rhyngweithiol gyffrous, sy’n trafod y cysyniad o berthyn, gan edrych ar hanes pobloedd Cymru. Mae’r arddangosfa’n agor yng ngwanwyn 2007, ac mae croeso mawr i rodd a chefnogaeth Cyfeillion yr Amgueddfa yn ôl Cyfarwyddwr Datblygu Strategol Amgueddfa Cymru, Mark Richards:

“Mae cefnogaeth y Cyfeillion yn hollbwysig i ni yma yn yr Amgueddfa, a rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu rhodd unwaith eto eleni. Wrth i ni gychwyn ar ein canmlwyddiant yn 2007, rydym yn gwireddu’r weledigaeth o fod yn amgueddfa ddysg o safon ryngwladol, ac mae rhoddion fel yr un yma gan y Cyfeillion yn hwb mawr i’n gwaith.

“Rydym yn amgueddfa sy’n gofalu am drysorau’r genedl, a rydym yn codi arian ac yn datblygu perthnasau gyda chyrff ym mhob sector yn barhaus. Mae ein perthynas gyda Chyfeillion yr Amgueddfa yn rhan bwysig o hyn, a rydym yn edrych ymlaen i barhau i gydweithio wrth i ni gychwyn ar ein hail ganrif,” ychwanegodd.

Mae rhoddion eraill gan y Cyfeillion yn cynnwys arian tuag at grantiau ymchwil ar gyfer staff, ac arian er mwyn datblygu elfennau rhyngweithiol yn rhai o’r orielau celf. Mae arddangosfa archaeolegol newydd, Gwreiddiau, sy’n agor ddiwedd 2007, hefyd wedi derbyn arian gan y Cyfeillion.

Meddai Cadeirydd y Cyfeillion, Eric Dover:

“Ers y cychwyn, mae’r Cyfeillion wedi darparu dros £350,000 i gefnogi gwaith yr Amgueddfa Genedlaethol. Mae gennym dros fil o aelodau, ac mae’r niferoedd yn dal i godi. Gall unrhyw un â diddordeb gysylltu â’n ysgrifennydd aelodaeth ar (029) 2089 1747.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r tudalennau.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.