Datganiadau i'r Wasg

Ail-greu Odyn Galch Ganoloesol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Odyn galch o'r 13 ganrif, a adeiladwyd gan dîm o wirfoddolwyr dan arweiniad y pensaer Prydeinig nodedig Stafford Holmes, yw aelod diweddaraf casgliadau hanes Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Yr adluniad cyntaf o'i fath, crëwyd yr odyn ar gyfer pymthegfed gynhadledd Building Limes Forum ‘Calch yng Nghymru' a gynhelir yn Amgueddfa Cymru o 22-24 Medi 2006. Bydd cyfle i aelodau'r mudiad gwirfoddol sy'n hybu dealltwriaeth ac arbenigedd defnyddio calch mewn adeiladu, astudio cynllun yr arddangosyn sy'n seiliedig ar weddillion odyn ganoloesol ger Castell Cilgerran, Sir Benfro.

Yn lynwr traddodiadol ar gyfer morter a phlaster, calch oedd deunydd adeiladu mwyaf poblogaidd y byd am filoedd o flynyddoedd, ac yn fwy diweddar mae gwarchodwyr adeiladau hanesyddol wedi cefnogi'r deunydd. Mae hefyd yn apelio at y rheini sy'n ymdrin ag adeilad newydd-sbon, yn bennaf gan ei fod fwy cynaliadwy yn amgylcheddol na sment.

Yn ôl Gerallt Nash, Uwch Guradur, Amgueddfa Cymru:

“Roedd ail-greu'r odyn, sy'n seiliedig ar strwythur sy'n nodweddiadol o'r 13 ganrif yn brosiect cyffrous o safbwynt archaeoleg arbrofol. Y gobaith yw y bydd yn cynnig gwell eglurhad i ni o sut y cafodd calch ei baratoi a'i ddefnyddio yn y gorffennol.”

Bydd yr odyn i'w weld ger un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol yr Amgueddfa erioed, sewf Eglwys Sant Teilo o Landeilo Tal-y-Bont ger Pontarddulais, sydd hefyd yn dod o'r 13fed ganrif.

Meddai Cliff Blundell, aelod o Bwyllgor Gwaith Cymru Building Limes Forum a Chyfarwyddwr The Lime Company of West Wales Ltd:

“Mae'n debyg mai dyma'r tro cyntaf yr ymgeiswyd ail-greu odyn galch o'r Canol Oesoedd. Gall y gwirfoddolwyr a fu'n rhan o'r prosiect fod yn falch iawn o'r cynnyrch gorffenedig ac rwy'n sicr eu bod wedi gwella eu sgiliau fel seiri maen canoloesol. Rydw i wedi yn sicr! Ar ran Building Limes Forum, diolch i bawb a gymerodd rhan, bu'n waith caled ond yn werth chweil.”

Gorffennodd Gerallt Nash gan ddweud: “Mae'n bleser croesawu aelodau o The Building Limes Forum o ledled y byd i Amgueddfa Cymru eleni, ar gyfer penwythnos o drafod, ac i weld yr odyn galch yn cael ei gynnau am y tro cyntaf.

“Mae'r mudiad yn ymwneud ag atgyweiriad adeiladau hanesyddol felly rydyn ni'n hyderus bydd Sain Ffagan o ddiddordeb mawr iddyn nhw. Uchafbwynt y penwythnos fodd bynnag fydd goleuo'r odyn galch ganoloesol.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.