Datganiadau i'r Wasg

Hydref blasus yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Bwyd fydd canolbwynt calendr Sain Ffagan mis Hydref 2006 gyda dewis eang o ddigwyddiadau i roi blas ar eich mis chi.

O ddysgu am y dulliau traddodiadol o storio llysiau dros y gaeaf (14 Hydref) i astudio'r gwahanol fathau o bwmpenni sy'n tyfu yng ngerddi'r Castell (14-20 Hydref), bydd Amgueddfa Werin Cymru'n cynnig gwledd ar eich cyfer ym mis Hydref.

Ar 23 Hydref, bydd Sain Ffagan yn dathlu Eidul-Fitr, neu diwedd Ramadan, fel rhan o'r Ŵyl Diwylliannau Moslemaidd. Cynigir bwyd a gysylltir â'r ŵyl o 11 tan 1 o'r gloch a 2 tan 4 y prynhawn.

Hefyd ar y fwydlen mae Diwrnod Afalau (28 a 29 Hydref) pan gall ymwelwyr fwynhau amrywiaeth eang o afalau — hen fathau, afalau hawdd i'w tyfu mewn gerddi bychain a'r mathau nad yw pobl yn eu hadnabod sy'n tyfu yn yr ardd gefn neu ar hyd y ffordd fawr. Bydd cyfle i flasu a dysgu am 10 gwahanol fath o afal.

Bydd twco afalau yn rhan o Wythnos Galan Gaeaf (28 Hydref–5 Tachwedd) ynghyd â llosgi'r Dyn Gwiail, hen arferion Cymreig, teithiau arswydus a llawer mwy ar gyfer y teulu cyfan. Yn ôl Matthew Davies, Cydlynydd Gweithgareddau Sain Ffagan: “Mae gan Sain Ffagan ddewis eang o ddigwyddiadau sy'n addas ar gyfer y teulu oll. Bydd rhai yn mwynhau nosweithiau'r Daith Ysbrydion a gynhelir ar 28 a 31 Hydref; mae'r Wythnos Dysgu fel Teulu: Her y Llwybr i'r Teulu (7 Hydref) yn rhoi cyfle i deuluoedd ymlwybro o amgylch yr Amgueddfa; ac i'r rhai creadigol, cynhelir y Darlun Mawr: Cerfio Patrymau ar 14 Hydref pan gall ymwelwyr weld cerfiadau pren prydferth yn Eglwys Sant Teilo ac yna cerfio'r patrymau'n ddiogel eu hunain.”

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Ceir mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.