Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn dathlu Diwrnod y Loteri Genedlaethol gyda diwrnod o hwyl i'r teulu

Dathliwyd Diwrnod y Loteri Genedlaethol yn Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, ddydd Sadwrn 23 Medi 2006 gyda diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau i’r teulu cyfan.

Mae Diwrnod y Loteri Genedlaethol yn cydnabod a dathlu y gwahaniaeth sydd yn cael ei wneud i gymunedau a phobol ar draws Cymru a gweddill y wlad gyda arian y Loteri. Ers i’r Loteri gael ei lansio yn 1994, mae dros £900 miliwn wedi cael ei wobrwyo i Achosion Da yn Nhghymru i dros 26,000 o grantiau.

Roedd seren Big Brother Glyn Wise ac Alun Pugh Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddiwylliant, Yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon yn y digwyddiad a fynychwyd gan dros 1,000 o bobol. Mwynhaodd y cyhoedd arddangosfa arbennig ar ynni dwr a’r haul gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen, Machynlleth, celf a chrefft gyda llechi, actorion yn ail fyw bywyd yn yr 19eg Ganrif, a pherfformiadau cerddoriaeth gan grwpiau a ariannwyd gan y Loteri.

Yn ei araith i nodi Diwrnod y Loteri Genedlaethol dywedodd Alun Pugh AC: “Gall prosiectau sydd wedi eu hariannu gan y Loteri fod yn ysbrydoledig, addysgol ac yn emosiynol. Mae nhw’n gallu, ac yn, newid bywydau pobl. Mae llawer o brosiectau’r Loteri yn cyfoethogi bywydau pobol ac yn ymwneud â chael hwyl – ac mae’r digwyddiad yma heddiw yn llawer o hwyl. Mae’r Amgueddfa Lechi yn enghraifft gwych o sut mae arian y Loteri yn parhau i greu atyniadau cyhoeddus, diddorol, addysgiadol a llwyddiannus ar draws y wlad.”

Dywedodd Glyn Wise: “Mae Diwrnod y Loteri Genedlaethol yn gyfle gwych i gael dathliad ac i bwysleisio’r gwahaniaeth mae arian y Loteri wedi ei wneud ar draws Cymru. Dwi wedi cael diwrnod gwych heddiw ac wedi mwynhau dysgu mwy am derftadaeth a diwylliant Cymru.”

Fe dderbyniodd Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, a weinyddir gan Amgueddfa Cymru, grant o £1.6 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri yn 1998 a alluogodd i’r amgueddfa ehangu a datblygu ei arddangosfeydd a gwella cyfleusterau i ymwelwyr. Mae’r gwelliannau hyn wedi eu galluogi i adrodd hanes y broses chwarelyddol mewn modd cyffroes a chofiadwy ac mae’r amgueddfa wedi mynd o nerth oi nerth ers hynny gan atynnu dros 130,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Roedd yr Amgueddfa Lechi yn un o 13 prosiect a ariannwyd gan y Loteri ar draws y DU a gynhaliodd ddigwyddiad cyhoeddus am ddim i ddathlu Diwrnod y Loteri Genedlaethol.