Datganiadau i'r Wasg

Blwyddyn Arall o Lwyddiant i Amgueddfa Cymru

Wrth i Amgueddfa Cymru baratoi i ddathlu'i chanmlwyddiant yn 2007, cyhoeddir ei Hadroddiad Blynyddol am y flwyddyn ddiwethaf, sy'n cloriannu cyfnod cyffrous arall yn hanes yr Amgueddfa.

Dyma'r flwyddyn pan gyhoeddodd Amgueddfa Cymru ei Gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sy'n amlinellu dyhead y sefydliad i fod yn amgueddfa ddysg o safon byd-eang. Bu'r amgueddfa yn ymgynghori ar y Weledigaeth a'i chynlluniau ar gyfer y dyfodol drwy gydol y flwyddyn.

Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, Michael Houlihan:

“Bu 2005-06 yn flwyddyn brysur iawn i Amgueddfa Cymru ac fe fuon ni'n edrych ar ein ffordd o weithio ac o gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ofyn sut hoffen ni weld ein hunain yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf, a sut hoffai pobl Cymru ein gweld ni'n datblygu.

“Ffrwyth y gwaith hwn yw ein Gweledigaeth, ac mae llwyddiannau eraill y flwyddyn hon a'r cyfnod ers diwedd y cyfnod adrodd, yn gwau i mewn i amcanion y Weledigaeth ac i'n dyhead ni i fod yn amgueddfa ddysg o safon byd-eang,” ychwanegodd.

Un o uchafbwyntiau 2005/06 yn ddi-os oedd agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ein amgueddfa genedlaethol fwyaf newydd a phinacl Strategaeth Ddiwydiannol y sefydliad. Fe'i hagorwyd yn swyddogol ym mis Hydref 2005 gan y Prif Weinidog, Gwir Anrh. Rhodri Morgan, a'r arwr rygbi, Gareth Edwards.

Erbyn diwedd y cyfnod adrodd, roedd yr amgueddfa eisoes wedi denu dros 80,000 o ymwelwyr, cyfran o'r 1.3miliwn o ymwelwyr a ddaeth i'n gweld yn 2005/06. Gyda phum mlynedd wedi pasio ers i Lywodraeth Cynulliad Cymru basio polisi mynediad am ddim i bawb i'r amgueddfeydd cenedlaethol, braf iawn yw adrodd bod ffigurau Amgueddfa Cymru dros 80% yn uwch na'r cyfnod cyn cyflwyno mynediad am ddim.

Bu'n flwyddyn lwyddiannus arall i Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, gyda'r amgueddfa yn ennill Gwobr Gulbenkian am Amgueddfa'r Flwyddyn, 2005, ar gychwyn y cyfnod adrodd, a bu'r anrhydedd hwn yn hwb mawr i ffigurau ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, bu Big Pit yn llwyddiannus yn eu cais am Wobr Sandford, sy'n gwobrwyo sefydliadau am eu rhaglenni addysg mewn treftadaeth.

Yna, ddechrau 2006, cyhoeddwyd bod Big Pit ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, wedi llwyddo yng ngwobrau BECTA (British Educational Communications Agency) ym maes TGCH, am eu gwaith mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd. Yn ogystal, derbyniodd Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, ganmoliaeth yng Ngwobr Amgueddfa Ewropeaidd y Flwyddyn am ei gallu i ymateb i anghenion a dyheadau ei hymwelwyr.

Ym mis Tachwedd 2005, lansiwyd brand newydd y sefydliad, a daeth Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn Amgueddfa Cymru, enw syml sy'n atgyfnerthu ein statws dwyieithog, gan mai fel Amgueddfa Cymru – National Museum Wales yr adnabyddir y sefydliad yn Saesneg. Yn ogystal, cafodd enwau'r amgueddfeydd unigol eu symleiddio, gan ddefnyddio 'Cymru' yn y Gymraeg a 'National' yn y Saesneg, er mwyn creu cysondeb o fewn y teulu o amgueddfeydd cenedlaethol.

Yn ystod y cyfnod adrodd, bu'r amgueddfa hefyd yn gweithio ar ddiwygio'i Siarter, er mwyn sicrhau atebolrwydd mwy hygyrch i bobl Cymru. Erbyn cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol, mae'r Siarter hon wedi'i chytuno, ac fe gyhoeddir yr Adroddiad yn Niwrnod Agored Cyhoeddus cyntaf Amgueddfa Cymru, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ddydd Sadwrn 21 Hydref, o 10.30am. Bydd cyfle i drafod cynnwys yr Adroddiad mewn sesiwn arbennig dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Michael Houlihan. Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'r .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd copïau o'r Adroddiad Blynyddol ar gael yn ein Diwrnod Agored, yn unrhyw un o'r amgueddfeydd cenedlaethol ar hyd a lled Cymru, drwy gysylltu â ni yn uniongyrchol, neu i'w lawr lwytho .