Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Dathlu'r Wyl Ddiwylliannau Foslemaid

Dewch draw i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod mis Tachwedd am wledd o ddigwyddiadau, a rhywbeth ar gyfer pobl o bob oed.

Gyda dwy arddangosfa arbennig wedi agor ddiwedd Hydref. Tachwedd yw'r mis i alw mewn i'r amgueddfa i ddysgu mwy am y byd Moslemaidd.  Os taw gwyddoniaeth a dyfeisiadau sy'n mynd â'ch bryd – ac os yw'r plant yn gwirioni ar gael rhoi cynnig ar wahanol fotymau – yna, ein harddangosfa ar 1001 o Ddyfeisiadau: Darganfod Treftadaeth Foslemaidd ein Byd yw'r un i chi. 

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn cynnal arddangosfa arbennig ar Foslemiaeth yng Nghymru, Y Byd Moslemaidd ar Stepen y Drws, sy'n defnyddio creiriau o'r casgliad cenedlaethol, ynghyd â gwaith artistiaid o Gymru i roi cyd-destun Cymreig a chyfoes i'r pwnc.  Mae'r arddangosfa hon hefyd yn rhan greiddiol o ddathliadau Yr Wyl Ddiwylliannau Moslemaidd, sydd wedi cymryd lle ar hyd a lled Cymru trwy gydol y flwyddyn.

Mae nifer o weithgareddau wedi'u trefnu i gyd-fynd â'r ddwy arddangosfa yma – y rhan fwyaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ond rhai ohonynt yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.  Drwy gydol Tachwedd, bydd cyfle i bawb o bob oed ddysgu mwy am y byd Moslemaidd gyda chyfres o weithgareddau a digwyddiadau arbennig bob penwythnos yn ein horiel ryngweithiol, Glan Ely, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Bydd cyfres o sgyrsiau amser cinio arbennig yn cael eu cynnal i gyd-fynd â'r arddangosfeydd.  Mae pob sgwrs yn cychwyn am 1.05pm a dylech fwcio wrth y dderbynfa wrth gyrraedd yr amgueddfa. 

1 Tachwedd – Michael Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglennu, Amgueddfa Cymru yn rhoi cyflwyniad i arddangosfa Y Byd Moslemaidd ar Stepen y Drws 8 Tachwedd - Venetia Porter, Curadur Casgliadau'r Dwyrain Canol ac Islamaidd, Yr Amgueddfa Brydeinig yn trafod Celfyddyd Gyfoes o'r Dwyrain Canol. 15 Tachwedd - Gareth Williams, Curadur Darnau Arian yr Oesoedd Canol Cynnar, Yr Amgueddfa Brydeinig yn rhoi cyflwyniad i Ddarnau arian Islamaidd Prydain y Canol Oesoedd. 22 Tachwedd - Dr Abdalla Yassin Mohammed yn trafod Dyfeisiadau Gwyddonol Moslemaidd: rhoi pethau yn eu lle.

Byddwn hefyd yn dathlu diwedd Ramadan yn Ffermdy Llwyn yr Eos, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, gyda'n digwyddiadau Eid ul-Fitr, o 1 – 5 Tachwedd.  Am ragor o fanylion, ewch i'r wefan, neu tarwch olwg ar ein cylchlythyr, Digwyddiadau, sy'n llawn gwybodaeth am ein bopeth sy'n digwydd yn ein holl amgueddfeydd cenedlaethol.  Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.