Datganiadau i'r Wasg

Chwiliwch am drysor Rhufeinig y gwyliau hwn

Allwch chi ddilyn yr helfa drysor i ennill gwobr Rufeinig arbennig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, yn ystod gwyliau hanner tymor?

Gall teuluoedd gymryd rhan yn yr helfa drysor tra'n crwydro casgliadau ardderchog yr Amgueddfa. Mae'n gyfle arbennig i ddysgu mwy am sut oedd y Rhufeiniaid yn byw yng Nghymru ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Mae gweithgareddau'n digwydd o 30 Hydref – 3 Tachwedd, 11am – 4pm, ac maen nhw'n costio £1 y pen.

Os ydych chi'n edrych am rywbeth ychydig yn wahanol, beth am ddod â'r teulu i gymryd rhan yn nathliadau Samhain Rhufeinig (Calan Gaeaf). Mae'r dathliad yma'n hen wyl baganaidd, ac fe fyddan nhw'n hwyl a sbri i'r teulu cyfan, a bydd cyfle hefyd i wisgo i fyny.

Mae 'Samhain' yn cael ei ddathlu ar 31 Hydref, 6pm – 8pm. Mae tocynnau'n costio £1 i oedolion a £2 ar gyfer plant, ac mae'n rhaid bwcio ymlaen llaw drwy ffonio 01633 423134.

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n .

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.