Datganiadau i'r Wasg

Ein llyfr diweddaraf yn ennill gwobr anrhydeddus — eto!

Mae Amgueddfa Cymru'n falch dros ben o gael cyhoeddi ei bod wedi llwyddo, unwaith eto, i ennill gwobr anrhydeddus ‘Llyfr Archaeolegol y Flwyddyn' o blith gwobrau Archaeoleg Prydeinig.

Canmolwyd The Tomb Builders in Wales gan y beirniaid am ei gynhyrchiad a'i luniau gwych, ac am hygyrchedd yr ieithwedd a ddefnyddiwyd ynddo. Mae'r llyfr yn archwiliad byw o fegalithau cynhanesyddol, ac yn anarferol gan ei fod yn canolbwyntio ar y bobl fyddai'n creu'r cromlechi a'u hamgylchedd. Fe ddywedodd un o'r beirniaid – “gallwch archwilio'r hanes heb gael eich eithrio ohoni”.

Mae'r wobr, a gyflwynir bob dwy flynedd, yn cydnabod “y llyfr gorau sy'n cyflwyno archaeoleg Prydain i'r gynulleidfa ehangaf”. Yn ôl yr awdur, Dr Steve Burrow, Curadur Cynhanes Amgueddfa Cymru,

“Llafur cariad oedd y llyfr. Roedd yn esgus gwych i gael archwilio pennod ryfeddol yn hanes Cymru, nad oes llawer wedi cael ei gyhoeddi amdano o'r blaen. Roedd ennill y wobr hon yn goron ar y cyfan!”

Dywedodd Mari Gordon, Pennaeth Cyhoeddi Amgueddfa Cymru,

“Mae hyn yn newyddion arbennig o dda i ni. Ein strategaeth yw i gyflwyno gwybodaeth am ein casgliadau a gwaith ymchwil i gynulleidfa eang mewn dull atyniadol a phoblogaidd, gan gyrraedd y safon uchaf. Braf yw gweld ein bod ar y trywydd iawn!”

Cyhoeddir The Tomb Builders am £14.99 gan Lyfrau Amgueddfa Cymru. Mae ar gael gan lyfrwerthwyr da neu ffoniwch (029) 2057 3341 i archebu copi. Aeth y fersiwn Gymraeg o'r llyfr, sef Cromlechi Cymru, allan o brint o fewn wythnosau i'w gyhoeddi ond mae wedi ailargraffu ac ar gael eto.

Enillodd Llyfrau Amgueddfa Cymru yr un wobr yn 2002 am y llyfr Vikings in Wales, a chymeradwyaeth yn 2004 am y gyfrol academaidd Catalogue of Mesolithic and Neolithic Collections. Does yr un cyhoeddwr arall wedi gweld cymaint o'i lyfrau'n llwyddo y naill ar ôl y llall yn y gwobrau hyn.