Datganiadau i'r Wasg

Strafagansa Foslemaidd

Bydd Strafagansa Islamaidd yn cael ei chynnal yn Abertawe dros y penwythnos yn rhan o'r ?yl Diwylliannau Moslemaidd – a bydd y digwyddiad yn RHAD AC AM DDIM i bawb.

Cynhelir y Strafagansa yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe, a bydd yn arddangos rhai o'r gweithgareddau a'r gweithiau celf a grëwyd gan grwpiau cymunedol lleol.

Mae nifer o bartneriaid wedi bod yn cydweithio â'i gilydd i lunio rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd y gall pob rhan o'r gymuned eu mwynhau er mwyn dathlu celf a thraddodiadau Islamaidd yn Abertawe. Gobeithir y bydd y digwyddiad yn creu cysylltiadau a dealltwriaeth well rhwng cymunedau Moslemaidd a chymunedau eraill.

Cynhelir gweithgareddau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau rhwng 11 am a 4 pm ar 18 ac 19 Tachwedd, gan gynnwys sgyrsiau, seminarau, arddangosfeydd, gweithdai celf a chrefft, cerddoriaeth a dawnsio.

Bydd Amgueddfa Abertawe'n cynnal gweithdai Dawnsio Bola a Dawnsfeydd o Gwrdistan ddydd Sadwrn rhwng 12 pm a 3 pm.

Rhai o'r siaradwyr fydd Abdulla Yassin Mohammed, Cydlynydd Yr ?yl Diwylliannau Moslemaidd yng Nghymru a fydd yn trafod dyfeisiadau Islamaidd, a Mohammed Ali, o Arabic Aerosol, sy'n ymwneud â phrosiectau ar Gelf Stryd Islamaidd.

Ymysg y Perfformiadau ceir darlleniad o'r Qur'an, cerddoriaeth Baraka a Dawnsfeydd o Gwrdistan. Bydd yno hefyd stondinau i godi ymwybyddiaeth yngl?n â chymunedau ac arddangosfeydd o gelf a chrefft Islamaidd, gan gynnwys gwaith gwydr a chelfyddyd gyfoes, Celf Stryd Islamaidd a baneri cymunedol ar gyfer y Ramadan. Bydd gwrthrychau o Gymuned Islamaidd Abertawe hefyd yn cael eu harddangos.

Dywedodd Sue James, Swyddog Addysg Gymunedol yr Amgueddfa, ei bod yn gobeithio y byddai'r digwyddiad yn hwb i gynlluniau eraill cymunedol. “Dyma ddathliad blwyddyn o hyd, a'i nod yw cynyddu ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad o Ddiwylliannau Moslemaidd. Mae cymaint o grwpiau cymunedol lleol wedi gweithio'n galed iawn i gynnal yr ?yl, ac wedi creu prosiectau adfywio gwych a fydd o fudd i'r gymuned.”

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n perthyn i Amgueddfa Cymru, sy'n gweinyddu chwe amgueddfa genedlaethol arall ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.