Datganiadau i'r Wasg

Awdur o löwr yn lansio hunangofiant o'r Rhyfel yn Big Pit

Bydd awdur ac arlunydd o löwr sydd ymhlith y mwyaf poblogaidd yn ne Cymru'n lansio argraffiad arbennig o'i lyfr newydd yn Big Pit ddydd Iau.

Bydd Big Pit yn cynnal lansiad argraffiad arbennig o hunangofiant George Brinley Evans o'r cyfnod a dreuliodd yn Byrma yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn ei swydd gyntaf, bu George yn gweithio o dan y ddaear yng Nglofa Banwen cyn gwasanaethu yn Byrma gyda'r 12fed Llu Arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae Where the Flying Fishes Play, a gyhoeddwyd gan Parthian Books, yn gofnod o'r cyfnod ym mywyd dyn ifanc lle mae unrhyw beth yn bosibl. Dyma stori wefreiddiol sy'n trafod ei gyfeillgarwch agos gyda'i gyd-filwyr, y modd y lledaenwyd ei orwelion wrth deithio dros foroedd a chyfandiroedd peryglus, a rhamant rhyfel fyddai'n newid cwrs ei holl fywyd.

Mae George yn awdur ac arlunydd o löwr sydd ymhlith y mwyaf adnabyddus yn ne Cymru. Aeth yn ôl i weithio yn y pyllau ar ôl y Rhyfel tan iddo ymddeol ym 1977. Daeth yn arlunydd nodedig tra'r oedd yn gweithio, ac er iddo golli un o'i lygaid mewn damwain, datblygodd ei sgiliau fel cerflunydd ac awdur. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf Boys of Gold yn 2000, ag yntau'n 77 oed.

Dywedodd Peter Walker, Rheolwr Big Pit: “Mae George Brinley Evans yn cael ei adnabod fel awdur ac arlunydd o löwr sydd ymhlith y mwyaf adnabyddus yn ne Cymru. Mae'n fraint cael cymryd rhan yn y lansiad yma o argraffiad arbennig ei waith newydd, ac rydym yn edrych ymlaen at gael dathlu ei dalentau a'i gyfraniad i ddiwylliant de Cymru.”

Bydd George Brinley Evans yn llofnodi copïau o Where the Flying Fishes Play yn y Siop yn Big Pit am 12 pm ddydd Iau 23 Tachwedd. Bydd 10% o bris y llyfr yn cael ei gyfrannu i elusen o'r enw 'Combat Stress', sy'n ceisio ailadeiladu bywydau cyn-filwyr sydd â salwch meddwl.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalennau 07.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.