Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau — Agor i bawb

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, wedi ennill dwy wobr anrhydeddus am ragori mewn rhannu gwybodaeth a chynnwys y cyhoedd.

Cyflwynwyd Gwobrau Interpret Britain and Ireland i Dr Richard Bevins, Arweinydd Prosiect Datblygu'r Amgueddfa, gan un o sêr y teledu a'r ymgyrchydd dros dreftadaeth, Loyd Grossman ym Mryste neithiwr (Tachwedd 30).

Mae'r gwobrau'n cydnabod yr enghreifftiau gorau o ddehongli - y grefft o rannu storïau ac arwyddocâd ein treftadaeth naturiol a diwylliannol. Roedd yn rhaid i'r enillwyr gyrraedd marciau uchel yn erbyn amrywiaeth o feini prawf manwl gan gynnwys dychymyg ac arloesi, cynllunio dehongli'n dda ac ymrwymiad clir tuag at hygyrchedd, hyfforddiant a chynnal a chadw.

Ers iddi agor ar 17 Hydref, 2005, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, un o Amgueddfeydd Cymru, wedi croesawu tua 260,000 o bobl.

Gall ymwelwyr archwilio'r storïau dynol cyffrous yngl?n ag arloesi a diwydiant yng Nghymru dros y 300 mlynedd diwethaf drwy gyfres o 15 arddangosfa, gyda thema arbennig i bob un.

Ceir 100 o arddangosion clyweledol, gan gynnwys 36 o arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf yn ogystal â rhai peiriannau mawr iawn o bob rhan o Gymru nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach.

Mae'r adeilad ei hun, a'r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir i ddehongli'r casgliadau eisoes wedi ennill nifer o wobrau gan gyrff amrywiol, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Ddinesig a RIBA, Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain. Cafodd yr Amgueddfa hefyd ei chynnwys yn un o bump ar restr fer y Guardian o Amgueddfeydd sy'n Addas i Deuluoedd.

Yn seremoni neithiwr, rhoddwyd gwobr i'r Amgueddfa am ei defnydd o dechnoleg a'i dull o ddehongli.

Rhoddwyd gwobr arbennig hefyd i'r amgueddfa i gydnabod ei gwaith yn anelu i fod yn gynhwysol a hygyrch i bawb. Dywedodd y beirniaid: “Mae'r amgueddfa'n gwbl hygyrch i bobl o bob gallu corfforol.” Cafwyd canmoliaeth hefyd am ieithwedd a maint y print ar y paneli ynghyd â'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain.

Wrth gyflwyno'r gwobrau, dywedodd Mr Grossman mai braf oedd gweld arferion cystal o ran dehongli'n cael eu gweithredu. Aeth yn ei flaen, “Mae'r ffaith bod cymaint o bobl yn gweithio i hyrwyddo amrywiaeth drwy wneud eu safleoedd a'u dull o ddehongli yn hygyrch i bawb hefyd yn ddatblygiad cyffrous”.

Mae'r cynllun gwobrwyo, sydd ar ei 22ain flwyddyn bellach, yn cael ei gynnal gan yr Association for Heritage Interpretation (AHI) gyda chymorth English Heritage, Scottish Natural Heritage a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Dywedodd Dr Bevins: “Rydym yn falch dros ben ein bod wedi derbyn y gwobrau. Dyma ganlyniad gwych ar ôl llawer o waith caled ac ymroddiad ar ran staff yr Amgueddfa a'r Tîm Dylunio allanol i wireddu prosiect uchelgeisiol a chyffrous iawn'

Notes to Editor:

Dyfarnwyd grant o £11 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri - y grant mwyaf a ddyfarnwyd erioed yng Nghymru - ar gyfer y datblygiad gwerth £33.5 miliwn. Dyluniwyd yr adeilad gan Benseiri Wilkinson Eyre, ac mae’n cynnwys warws rhestredig Gradd II wedi’i chysylltu ag adeilad newydd trawiadol o wydr a llechi. Mae’r Amgueddfa wedi’i lleoli yn Ardal Forol newydd Abertawe ac yn rhan o’r gwaith o adfywio’r ardal. Llywodraeth y Cynulliad, Amcan Un yr EU a ariannodd weddill y prosiect, ynghyd â chyfranwyr a noddwyr eraill preifat.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n perthyn i Amgueddfa Cymru sy’n gweinyddu chwe amgueddfa genedlaethol arall ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis.

Ceir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.