Datganiadau i'r Wasg

Aeddfedu caws Cymreig 300 troedfedd o dan y ddaear!

Caws Pwll Mawr, sy’n cael ei aeddfedu yng ngwaelodion Big Pit – un o brif amgueddfeydd y DU, yw un o’r cawsiau newydd o gyfres o gawsiau cartref y Blaenafon Cheddar Company. Bydd y cawsiau’n cael eu lansio yn eiddo newydd y cwmni ym Mlaenafon yfory (Dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr 2006).

Creadigaeth Susan Fiander-Woodhouse, Cyfarwyddwr Cynhyrchu’r Blaenafon Cheddar Company yw Caws Pwll Mawr. Caws Cheddar fferm ydyw sy’n cael ei aeddfedu yn y dull traddodiadol yn Big Pit – un o safleoedd Amgueddfa Cymru. Defnyddir hen dechneg o’r 18fed a’r 19eg ganrif i ddatblygu blas y caws sy’n aeddfedu’n naturiol mewn casgedi dur gloyw yng ngwaelod y siafft, cyn cael ei selio â chwyr du melfedaidd.

Aethpwyd â’r llwyth cyntaf o gaws i Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru ddechrau mis Tachwedd yn ôl Mrs Fiander-Woodhouse: “Mae’r broses aeddfedu’n elfen bwysig o’r grefft o wneud caws, a chan fod y tymheredd ar waelod Big Pit yn aros ar 10.9 gradd, mae’n amgylchedd delfrydol i ddatblygu blas y caws. Mae’r broses aeddfedu’n dylanwadu ar y cynnyrch terfynol, felly er mwyn sicrhau bod y caws yn llwyddiant gwnaethom gysylltu â Big Pit i’n helpu ni i gynhyrchu caws Cymreig o safon.”

Mae’r Blaenafon Cheddar Company yn lansio amrywiaeth o gosynnau caws Cheddar 200g, gan gynnwys Pwll Du – caws Cheddar wedi’i gymysgu â mwstard a chennin o’r Welsh Lady Pantry a chwrw Double Dragon; Blaenafon wedi’i gymysgu â Wisgi Cymreig Penderyn a Chyffaith Sunsur o’r Welsh Lady Pantry; Capel Newydd sy’n cynnwys blas ysgafn gwin gwyn o’r Sugar Loaf Vineyard a blodau’r ysgaw a garlleg o Beacon Foods; caws Pwdin Nadolig traddodiadol wedi’i gyfuno â ffrwythau cymysg blasus a’i drwytho mewn Gwirod Black Mountain, a Chaws Pwll Mawr hefyd wrth gwrs. Mae pob un o’r cawsiau’n hyrwyddo rhai o safleoedd hanesyddol mwyaf poblogaidd Blaenafon.

Dywedodd Peter Walker, Rheolwr Big Pit: “Cysylltodd Mrs Fiander-Woodhouse â ni i ofyn a fyddai modd aeddfedu’r caws ar waelod y siafft gan y byddai aeddfedu’r caws mewn amgylchedd naturiol yn ychwanegu at flas y cynnyrch.

“Dyma’r ymholiad cyntaf i ni ei dderbyn o’r math yma, ac rydym yn falch dros ben o allu cefnogi’r Blaenafon Cheddar Company – busnes sy’n gaffaeliad i’r ardal – ac rydym yn falch bod Mrs Fiander-Woodhouse wedi enwi’r caws ar ôl yr Amgueddfa. Mae gan gynhyrchwyr caws yng Nghymru enw da am greu amrywiaeth o gawsiau yn y dull traddodiadol sydd wedi ennill gwobrau di-ri. Gobeithio y bydd Pwll Mawr yn ennill gwobr yn fuan.”

Bydd caws Pwll Mawr ar werth yn siop yr Amgueddfa, ac yn siop y Blaenafon Cheddar Company ym Mlaenafon, a agorwyd ddydd Sadwrn gan John Rodger MBE, Cyfarwyddwr Prosiect Blaenafon a Neil Lewis, Swyddog Gweithredol yr Amgylchedd o’r Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Bydd Amgueddfa Cymru’n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am fwy o fanylion ewch i dudalennau 07 ein gwefan – www.amgueddfacymru.ac.uk.

Cynigir mynediad am ddim i’n holl amgueddfeydd yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.