Datganiadau i'r Wasg

Penblwydd Arbennig i Gapel Penrhiw

Yn wreiddiol o Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin, ail-agorwyd Capel Penrhiw yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn 1956. I ddathlu hanner can-mlwyddiant yr achlysur hwn, cynhelir gwasanaeth arbennig ar 10 Rhagfyr am 3 y prynhawn yn y capel, sydd bellach yn atyniad i filoedd o ymwelwyr yn yr amgueddfa awyr agored.

Bydd Undodwyr o ardal Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn ogystal â chynulleidfa leol yn ymuno yn y dathliadau adfent yng Nghapel Penrhiw - y capel Undodaidd hynaf i oroesi yng Nghymru - o dan arweiniad y Parchedig Eric Jones.

Mae'n debyg mai ysgubor oedd yr adeilad gwreiddiol, a godwyd tua chanol y ddeunawfed ganrif, ond fe'i addaswyd fel ty cwrdd gan yr Undodiaid yn 1777. Yn ddiweddarach, crëwyd oriel yn lle'r lloft Uchaf. Dechreuodd y broses o symud yr adeilad i Sain Ffagan fesul darn yn 1953 ac heddiw mae'r capel yn parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau arbennig. Yn ôl Gerallt Nash, Uwch Guradur yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru:

“Mae Capel Penrhiw yn enghraifft dda o dy-cwrdd anghydffurfiol, lle roedd adeilad cynharach – o bosibl ysgubor – wedi ei droi yn gapel at ddefnydd yr Undodiaid. Â phensaernïaeth syml ond effeithiol, mae'n nodweddiadol o gapeli cynnar Cymru gyda'r llawr pridd a'r seddi pren. Mae maint a siâp y corau ar y llawr isaf yn amrywio gan y'u hadeiladwyd yn wreiddiol ar gyfer gwahanol deuluoedd.

“Datgymalwyd yr adeilad yn ystod Hydref 1953, ac fe'i hail-godwyd o fewn tair blynedd. Er mai adeilad arddangos yw prif bwrpas y capel heddiw, mae'n dal i gael ei ddefnyddio'n aml ar gyfer gwasanaethau. Erbyn hyn Capel Penrhiw yw un o adeiladau mwyaf poblogaidd yr Amgueddfa Werin.”

Ychwanegodd y Parchedig Eric Jones: “Roedd Capel Penrhiw yn ganolbwynt pentref Dre-fach Felindre ac mae'n parhau i fod yn bwynt ffocws i ymwelwyr yn Sain Ffagan. Bydd y dathliad ar 10 Rhagfyr yn gyfle i bobl hel atgofion am y capel a dathlu'r ffaith ei fod yn cael ei warchod gan Amgueddfa Cymru er mwyn i filoedd o bobl ei fwynhau.”

Un o Amgueddfeydd Cymru yw Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Cynigir mynediad am ddim i holl safleoedd Amgueddfa Cymru, yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyfleon cyfweld a lluniau ar gael drwy gysylltu â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2057 3486 neu anfonwch e-bost.

Dyma rai o ddigwyddiadau eraill y Nadolig yn Sain Ffagan:

 

  • 6, 7, 8 Rhagfyr: Y Gwyliau – Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn dathlu Nadolig draddodiadol Gymreig.
  • 9 a 10 Rhagfyr: ‘Nadolig Cynaliadwy' – Dewch i rannu cyngor gyda ni yngl?n â sut i arbed arian a gofalu am yr amgylchedd dros y Nadolig.
  • 16 Rhagfyr: ‘Llwybr Traddodiadau'r Nadolig' – Cyfle i ddarganfod mwy am Nadoligau yng Nghymru.
  • 29 Rhagfyr: Calennig – Dewch i greu anrhegion traddodiadol Calennig ac ymweld â rhai o dai'r amgueddfa i ganu am anrhegion.