Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Adfywio'r Ddinas

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn anadlu bywyd newydd i'r ddinas, a mae gennym gadarnhad swyddogol o hynny.

Neithiwr (Rhag 4) enillodd yr Amgueddfa Wobr Adfywio anrhydeddus am y prosiect adfywio gorau yn y DU a oedd yn seiliedig ar waith dylunio. Wythnos yma, bydd yr Amgueddfa hefyd yn derbyn Gwobr Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain am bensaernïaeth a dyluniad yr adeilad.

Roedd ennill y wobr yn gamp aruthrol i'r atyniad gwerth £33 miliwn, sy'n un o deulu o amgueddfeydd Amgueddfa Cymru ac sydd wedi denu mwy na 280,000 o bobl ers iddi agor ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Llwyddodd yr Amgueddfa, a ddyluniwyd gan benseiri Wilkinson Eyre, i guro cystadleuwyr o bob rhan o Brydain er mwyn ennill y teitl. Yn ôl y beirniaid, “mae'r ffordd y mae dyluniad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gan Wilkinson Eyre yn ymgorffori gorffennol a dyfodol Abertawe wedi sefydlu'r adeilad fel tirnod newydd yng Nghymru."

Mae safon adeilad yr Amgueddfa, a'r dechnoleg ddiweddaraf a ddefnyddir i ddehongli'r casgliadau, eisoes wedi ennill nifer o wobrau gan gyrff amrywiol, gan gynnwys Gwobr yr Ymddiriedolaeth Ddinesig, gwobr gan y Gymdeithas Dehongli Treftadaeth a chymeradwyaeth yn y Structural Steel Design Awards. Cafodd yr Amgueddfa hefyd ei chynnwys ar restr fer Gwobr Design Week am ddyluniad arloesol ei harddangosfeydd.

Bydd Gwobr RIBA'n cael ei chyflwyno i'r Amgueddfa ddydd Iau, Rhagfyr 7, gan Jonathan Adams, Llywydd Cymdeithas Frenhinol Penseiri Cymru (RSAW). Cyflwynir gwobrwyon RIBA am adeiladau sy'n cyrraedd safonau uchel o ran pensaernïaeth ac sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i'r amgylchedd lleol.

Canmolodd Mr Adams waith Wilkinson Eyre, gan ddweud: “Edrychodd y penseiri'n ofalus ar adnoddau a chymeriad yr amgylchedd lleol er mwyn cael syniadau. Cafwyd ymdriniaeth ddyfeisgar â gofod ac o ran deunyddiau adeiladu yn arbennig.

“Roedd y project yn un tymor hir, a bu'n rhaid wynebu a goresgyn rhwystrau a heriau drwy fod yn ddigon uchelgeisiol ac unigryw i ddal yn nychymyg y cyhoedd.”

Meddai Paul Loveluck, Llywydd Amgueddfa Cymru, “Mae'n llwyddo i gyfuno adeilad sy'n gyforiog o orffennol y chwyldro diwydiannol yng Nghymru gydag elfennau newydd. Canlyniad hyn yw adeilad sy'n ein galluogi i adrodd hanes unigryw Cymru, y genedl ddiwydiannol gyntaf, mewn dull cyffrous a deinamig. Mae hefyd yn enghraifft wych o waith partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Dinas a Sir Abertawe a Cynulliad Cymru, gyda chymorth grant swmpus gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.”

Dywedodd Arweinydd Dinas a Sir Abertawe, y Cyng. Chris Holley, bod y gwobrau'n gaffaeliad i'r ardal. “Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n llwyddiant aruthrol i Abertawe. Mae'n dirnod gwych ac yn haeddu'r holl gymeradwyaeth y mae wedi'i chael dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae'n bywiogi diwylliant ac economi ein dinas. Rwy'n si?r bod y degau o filoedd o bobl sydd wedi cael eu denu i'r Amgueddfa ers iddi agor yn cytuno ei bod hi'n werth ymweld droeon â'r lle.”

Gall ymwelwyr archwilio'r storïau dynol cyffrous yngl?n ag arloesi a diwydiant yng Nghymru dros y 300 mlynedd diwethaf drwy gyfres o 15 arddangosfa, gyda thema arbennig i bob un.

Ceir 100 o arddangosion clyweledol, gan gynnwys 36 o arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf yn ogystal â rhai peiriannau mawr iawn o bob rhan o Gymru nad ydynt yn cael eu defnyddio bellach.