Datganiadau i'r Wasg

Yr Amgueddfa'n rhyfeddu Llundain gyda 'Thrysorau Celf Cymru'

Am bedwar diwrnod yn unig, bydd ymwelwyr ag arddangosfa ‘Trysorau Celf Cymru’ yn Christie’s yn Llundain yn cael cyfle i weld gweithiau pwysig gan Renoir, Monet, Cézanne, Lucian Freud, Gwen John a Thomas Jones. Mae’r holl weithiau’n rhan o gasgliad parhaol Amgueddfa Cymru.

Er mwyn lansio canmlwyddiant Amgueddfa Cymru, bydd mwy na 30 o baentiadau, cerfluniau, gweithiau ar bapur a chelf gymhwysol yn cael eu harddangos yn Christie's, Llundain rhwng 14 ac 17 Ionawr 2007. Bydd yr arddangosfa hefyd yn gyfle i lansio ymgyrch codi arian i sefydlu Amgueddfa Gelf i Gymru ar lawr uchaf adeilad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym Mharc Cathays.

Uchafbwynt yr arddangosfa fydd gr?p o baentiadau gan yr argraffiadwyr a gyfrannwyd i'r Amgueddfa yn yr 20fed ganrif gan y ddwy chwaer arbennig, Gwendoline a Margaret Davies. La Parisienne eiconig Renoir, sef un o uchafbwyntiau arddangosfa gyntaf yr Argraffiadwyr ym 1874, fydd seren y sioe. Nid yw'r paentiad wedi gadael Caerdydd ers mwy nag 20 mlynedd. Bydd Canol dydd, L'Estaque Cézanne o 1879, a phaentiad enwog Monet, San Giorgio Maggiore yn y Gwyll o 1908, hefyd yn cael eu harddangos.

Yn naturiol, mae'r Amgueddfa hefyd yn ymfalchïo yn ei chasgliad o weithiau gan artistiaid Cymreig, yn arbennig ein traddodiad cyfoethog o baentio tirluniau, gyda Richard Wilson yn arwain y blaen yn y maes yma. Bydd golygfa enwog Castell Dolbadarn, a baentiwyd ganddo tua 1760,yn cael ei arddangos, ochr yn ochr â thirluniau gan Claude, Thomas Gainsborough, J.M.W. Turner a Thomas Girtin. Ceir gwaith hefyd gan artistiaid o'r 20fedganrif gydag Interior Study, 1907-9, gan Gwen John a gweithiau gan Lucian Freud, Frank Auerbach, David Hockney, ynghyd â Kamikaze, pryniant diweddar o waith Peter Blake.

Bydd Icarus efydd Alfred Gilbert, 1884, yn cynrychioli'r casgliad coeth o gerfluniau. Byddwn hefyd yn arddangos portreadau gan Nicholas Hilliard ac Isaac Oliver o gasgliad gwych yr amgueddfa o finiaturau sy'n weddol anghyfarwydd.

Dywedodd Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Rydym yn cynnal yr arddangosfa er mwyn i bobl gael cip ar ein trysorau, gan obeithio y byddant yn cefnogi'n hymdrechion i greu Amgueddfa Gelf i Gymru sy'n deilwng o'r casgliad, ac yn annog pobl i ddod draw i Gaerdydd i weld y gweithiau celf yn eu holl ysblander." Erbyn 2009, bydd y casgliadau celf yn cael eu harddangos mewn un gyfres barhaus o orielau, wedi eu aildatblygu i greu 40% o le arddangos ychwanegol.

Dywedodd Charles Cator, Cyd-gadeirydd, Christie's y DU, "Mae Christie's yn falch dros ben o gael cyfle i helpu Amgueddfa Cymru i ddathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Bydd arddangosfa mis Ionawr yn gyfle gwych i weld rhai o weithiau celf arbennig yr Amgueddfa, ac rydym yn edrych ymlaen at gael croesawu ymwelwyr o bell ac agos i'r arddangosfa ragorol."

- / -

Nodiadau i'r Golygyddion:

Mae Amgueddfa Cymru'n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. 

Cynigir mynediad am ddim i'n holl amgueddfeydd yn sgil cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.

(029) 2057 3185 / 07812 801356

  • Rhagarddangosfa i'r Wasg:         Dydd Gwener, 12 Ionawr o 10.00 am, yn Christie's
  • Dyddiadau: 14-17 Ionawr, 2006 yn Christie's, 8 King Street, Llundain, SW1
  • Oriau agor:                    Dydd Sul rhwng 2 a 5 pm

                                          Dydd Llun i ddydd Mercher rhwng 9 am a 4.30 pm

  • Ni chodir tâl mynediad
  • Ymholiadau: +44 (0) 29 2057 3185

Bydd Sgyrsiau Oriel Anffurfiol gan guraduron yr Amgueddfa'n cael eu cynnal bob dydd yn ystod yr arddangosfa. Dim ond hyn a hyn o lefydd fydd ar gael, felly mae'n hanfodol eich bod yn bwcio ymlaen llaw.

  • Dydd Sul, 14 Ionawr 3 pm - Collecting the 20th century - Oliver Fairclough, Ceidwad Celfyddyd
  • Dydd Llun, 15 Ionawr 1 pm - Applied art from Cardiff: a taste of the Welsh national collection - Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol
  • Dydd Mawrth, 16 Ionawr 1 pm - Renoir's 'La Parisienne' in focus - Ann Sumner, Pennaeth Celfyddyd Gain
  • Dydd Mercher, 17 Ionawr 1 pm - Collecting and interpreting: stories of art in Wales - Michael Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglennu  
  • Dydd Mercher, 17 Ionawr 7 pm - The Davies sisters of Gregynog: pioneer collectors of Impressionism - Ann Sumner, Pennaeth Celfyddyd Gain 

Am fwy o wybodaeth neu ddelweddau ffoniwch  

Robin Gwyn, Cyfarwyddwr Cyfathrebu 07810 657172