Datganiadau i'r Wasg

Pen-blwydd Pwysig, Milwyr Medrus ac Arddangosfa Ardderchog - Yr Ermine Street Guard yn dathlu 35 mlynedd yn y Sioe Filwrol Rufei

Mae’r Ermine Street Guard yn griw cyfarwydd yn Sioe Filwrol Rufeinig Caerllion. Ond gan fod y Gwarchodlu’n dathlu 35 mlynedd ers ei sefydlu eleni, bydd y digwyddiad ar 7 ac 8 Gorffennaf 2007 yn bwysicach fyth i’r milwyr.

Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn falch fod y Gwarchodlu’n dychwelyd i’r digwyddiad arbennig, union 35 mlynedd ers i’r wyth aelod gwreiddiol gymryd rhan yn ym mhasiant hanesyddol pentrefi Witcombe a Bentham, Swydd Gaerloyw am y tro cyntaf.

"Rydyn ni wedi meithrin perthynas agos â’r Ermine Street Guard – perthynas a ddechreuodd dros 20 mlynedd yn ôl,” meddai Bethan Lewis, Rheolwr, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. “Roedd y Gwarchodlu’n bresennol pan ail-agorwyd yr Amgueddfa yn 1987!”

“Mae presenoldeb y milwyr yn y Sioe Filwrol Rufeinig yn helpu i ddod a hanes yn fyw, sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl o’r gymuned leol ac ymhellach i ffwrdd i ddeall sut roedd y Rhufeiniaid yn brwydro, yn gweithio ac yn byw. Mae’r digwyddiad yn sicr yn rhoi blas gwirioneddol o fywyd yng nghyfnod y Rhufeiniaid.”

Cynhelir y Sioe Filwrol Rufeinig rhwng 10am â 5pm ar 7 a 8 Gorffennaf 2007 ac mae’n cynnig rhywbeth i bawb - o orymdeithiau, marchogion ac arfau i brofi bwyd a chwrdd â meddyg Rhufeinig. Bydd cyfle hefyd i ymuno â’r Lleng Fach, cael tystysgrif a gorymdeithio yn yr Amffitheatr.

Gellir bwcio tocynnau ymlaen llaw drwy ffonio Amgueddfa Lleng Rhufeinig Cymru ar 01633 423 134 (Oedolion £4, Gostyngiadau £2, Teuluoedd £10), ac mae rhagor o wybodaeth yngl?n â’r digwyddiad a sut i gyrraedd ar www.amgueddfacymru.ac.uk.

Mae Amgueddfa Cymru’n gweithredu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru. Y rhain yw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.

Mae Amgueddfa Cymru’n dathlu ei chanmlwyddiant yn 2007. Am ragor o fanylion ewch i dudalennau 07 ein gwefan.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3486 neu anfonwch e-bost at catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.